BUDDUGOLIAETH YN Y BENCAMPWRIAETH RYNG-GOLEGOL I BANGOR

Dydd Mawrth 19-03-2024 - 11:54

Dyddiad: 16/03/2024

Am yr wythfed flwyddyn yn olynol, bu Prifysgol Bangor yn fuddugol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth yn y Bencampwriaeth Ryng-golegol, sef cystadleuaeth y mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen yn fawr ati bob blwyddyn. Caiff ei chynnal yn flynyddol, ac eleni, mewn pencampwriaeth a gadwodd y cefnogwyr ar flaenau eu seddau, llwyddodd Bangor i sicrhau sgôr derfynol o 21-20, gan gynnal ein rhediad buddugol!

Cynhaliwyd y Bencampwriaeth Ryng-golegol eleni gan Brifysgol Aberystwyth, a bu’r myfyrwyr yn arddangos gallu athletaidd ac ysbryd cystadleuol. Roedd cyfanswm syfrdanol o 42 gêm yn rhychwantu amrywiaeth o wahanol chwaraeon, gan gynnwys futsal, beicio mynydd, hwylio, a dringo, ac roedd y gystadleuaeth yn frwd iawn.

Meddai Lewis Thompson, Is-lywydd Chwaraeon Undeb Bangor, “Mae’r fuddugoliaeth hon yn tanlinellu rôl hanfodol chwaraeon yn ein cymuned myfyrwyr. Mae’n dyst i ymroddiad a sgiliau ein hathletwyr. Gyda'r sgôr yn anhygoel o agos, roedd pob pwynt yn bwysig. Dwi ar ben fy nigon yn gweld rhediad buddugol Bangor yn parhau.”

Mae buddugoliaeth Prifysgol Bangor yn y Bencampwriaeth Ryng-golegol yn dangos dawn ac ymroddiad eithriadol ein hathletwyr. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a gobeithio eich bod wedi cael amser gwych.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...