UNDEB BANGOR YN CYNNAL CINIO PASG CYMUNEDOL

Dydd Mawrth 09-04-2024 - 14:28

Gall y Pasg fod yn gyfnod heriol i fyfyrwyr sydd ddim yn gallu dychwelyd adref. Er mwyn meithrin ymdeimlad o gymuned ac yn dilyn llwyddiant y cinio Nadolig, trefnodd Undeb Bangor bryd bwyd arbennig i’r gymuned i ddathlu’r Pasg. Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad ag Eglwys Gadeiriol Bangor, Cymdeithas yr Eglwys yng Nghymru, y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, a Chaplan y Brifysgol o Gadeirlan Deiniol Sant. Roedd y digwyddiad yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr rhyngwladol a arhosodd ym Mangor dros wyliau’r Pasg.

Nida Ambreen, Is-lywydd Addysg Undeb Bangor sy’n fyfyrwraig ryngwladol ei hun fu’n arwain y gwaith o drefnu’r pryd bwyd cymunedol. Dywedodd Nida, “Roedd y digwyddiad yn anhygoel a thwymgalon; dosbarthwyd dros 160 o brydau bwyd gennym erbyn diwedd y dydd. Roedd y myfyrwyr yn hynod ddiolchgar am y cynnig hwn. Pleser pur oedd cydweithio unwaith eto gydag Undeb Bangor, Eglwys Gadeiriol Bangor, Cymdeithas yr Eglwys yng Nghymru, a’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran am sicrhau bod y dathliad hwn yn llwyddo. Mae hyn wir yn amlygu cryfder ein cysylltiadau cymunedol.”

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Hyb Gweithgareddau Undeb Bangor, nid yn unig yn darparu pryd blasus am ddim i’r mynychwyr ond hefyd yn cynnig adloniant a gofod cynnes, diogel. Yn bwysig ddigon, fe wnaeth feithrin ymdeimlad o gymuned a chwmnïaeth, sy’n arbennig o bwysig ar adeg cyflwyno aseiniadau a phwysau arholiadau. Felly, mae cael cymuned o'r fath yn amhrisiadwy.

Daeth dros 97 o fyfyrwyr i ginio'r Pasg, gan drawsnewid Hyb Gweithgareddau Undeb Bangor yn lle hWYliog iawn. Hefyd, fe wnaethon nhw fwynhau helfa wyau Pasg o amgylch yr hyb gweithgareddau, gan sicrhau nad oedd neb yn colli allan ar hwyl y Pasg eleni!

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...