Undeb Bangor yn rhannu llawenydd y Nadolig gyda Chinio Nadolig Cymuned

Dydd Mawrth 30-01-2024 - 09:21

Daeth y Nadolig yn fyw gyda chynhesrwydd ac ysbryd cymunedol yn Undeb Bangor wrth iddynt, gynnal cinio Nadolig cymunedol arbennig mewn cydweithrediad ag Eglwys Gadeirlan Bangor, y Swyddfa Gefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol, a Chaplaniaeth y Brifysgol o Stryd Deiniol. Trefnwyd y digwyddiad hwn er mwyn darparu dathliad Nadoligaidd am ddim i fyfyrwyr rhyngwladol a arhosodd ym Mangor dros dymor y gwyliau.

Nida Ambreen, Is-lywydd Addysg Undeb Bangor a myfyrwraig ryngwladol ei hun a drefnodd yr achlysur Nadoligaidd hwn. Mynegodd Nida ei brwdfrydedd gan ddweud, “Roedd arwain y digwyddiad calonogol hwn o tua 100 o fyfyrwyr ar ddydd Nadolig yn anrhydedd gwirioneddol. Creodd yr ymdrechion cydweithredol rhwng Undeb Bangor, Eglwys Gadeirlan Bangor, a’r Swyddfa Gefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol, awyrgylch Nadoligaidd a chynhwysol, gan ddarparu cefnogaeth yr oedd ei mawr angen i’r rhai oddi cartref. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran am wneud y dathliad hwn yn llwyddiant. Mae’n wirioneddol arddangos cryfder ein clymau cymunedol.”

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Hwb Gweithgareddau Undeb Bangor, yn cynnig nid yn unig pryd o fwyd blasus am ddim ond anrhegion, adloniant, a gofod cynnes a diogel hefyd. Yn bwysicaf oll, darparodd ymdeimlad o gymuned a chwmnïaeth ar ddiwrnod a all yn aml fod yn unig i fyfyrwyr sydd heb eu teuluoedd.

Mynychodd dros 95 o fyfyrwyr y cinio Nadolig, gan wneud Hwb Gweithgareddau Undeb Bangor yn lle bywiog a Nadoligaidd. Bu ymweliad arbennig gan Sant Nick ei hun hyd yn oed, gan ychwanegu ychydig o hud ychwanegol at y gwyliau.

Mynegodd Lauren Beckett, Cyfarwyddwr yr Undeb Myfyrwyr, arwyddocâd y digwyddiad, gan ddweud, “Dyma’r tro cyntaf fel i ni fel Undeb Myfyrwyr gynnig digwyddiad ar Ddydd Nadolig, ond rydym ni wastad yn ymdrechu i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau sy’n hygyrch a chynhwysol, ac roedd yn bwysig i ni fod myfyrwyr a oedd ym Mangor dros gyfnod y Nadolig yn cael y cyfle i ddathlu a dod at eu gilydd gyda myfyrwyr eraill.”

Estynnodd Lauren ei diolchgarwch, gan ddweud, “Hoffwn ddiolch i’r holl bobl â helpodd wneud i hyn ddigwydd, ac rwy’n mawr obeithio bod yr holl fyfyrwyr a fynychodd ar y diwrnod wedi mwynhau’r digwyddiad. Roedden ni wrth ein bodd yn bod yn ddarn bach o’u Dydd Nadolig ac fe obeithiwn y bydd llwyddiant y digwyddiad hwn yn arwain at bethau tebyg yn y dyfodol.”

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...