Undeb Bangor yn ethol Swyddogion Sabothol newydd.

Dydd Mawrth 19-03-2024 - 11:52

Mae Undeb Bangor yn penodi 5 swyddog Sabothol bob blwyddyn. Mae 2 lywydd: un ar gyfer Undeb Bangor yn ei gyfanrwydd ac un ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Yn ogystal, mae 3 Is-lywydd, un yn goruchwylio grwpiau chwaraeon, un yn rheoli cymdeithasau a gwirfoddoli, a'r trydydd yn canolbwyntio ar addysg.

Mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain mentrau’r Undeb ac yn cynrychioli myfyrwyr mewn cyfarfodydd ar draws y Brifysgol. Maent hefyd yn goruchwylio Clybiau, Cymdeithasau, Projectau Gwirfoddoli, Cynrychiolwyr Cwrs, a Fforwm y Myfyrwyr. Yn ogystal â hynny, maent yn rhedeg ymgyrchoedd ac yn gweithredu newidiadau sydd â’r nod o wella profiad myfyrwyr.

Ar ôl wythnos o ymgyrchu dwys, ymgasglodd y 24 ymgeisydd, ynghyd â’u timau, yn Bar Uno am 6pm ar 13 Mawrth i ddathlu cyhoeddiad Tîm Sabothol 2024/25. Cafodd y digwyddiad ei ffrydio'n fyw a chafodd sylw ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Undeb Bangor. Yn ystod y cyfnod ymgyrchu, aeth yr ymgeiswyr ati i ymgysylltu â myfyrwyr i ddeall eu dymuniadau/anghenion ac i’w hannog i bleidleisio.

Aeth Undeb Bangor gam ymhellach i hybu cyfranogiad pleidleiswyr, gan gynnig cymhellion megis cardiau rhodd gwerth £100 i archfarchnadoedd, talebau pizza, a rholiau toiled! Cyfanswm y pleidleiswyr eleni oedd 2874, sef 21.45%; y nifer uchaf i bleidleisio erioed. Mae llwyddiant etholiad Sabothol eleni’n dangos lefel ymgysylltiad uchel ymysg fyfyrwyr.

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r tîm o swyddogion Sabothol newydd:

- Llywydd UMCB: Gwion Elidir Rowlands

- Llywydd: Nida Ambreen

- Is-lywydd Addysg: Rose Pugh

- Is-lywydd Chwaraeon: Holly Korobczyc

- Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli: Mya Tibbs

Roedd pwyntiau maniffesto allweddol yr ymgeiswyr eleni’n cynnwys cynyddu cefnogaeth iechyd meddwl, ehangu mannau astudio, gwella hyrwyddiad clybiau a chymdeithasau, hybu cyfranogiad o fewn grwpiau chwaraeon, a mynd i'r afael â chostau byw. Mae’r materion hyn yn hollbwysig i’r myfyrwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod ac at weld cyfraniadau’r Tîm o Swyddogion Sabothol newydd i Undeb y Myfyrwyr. Bydd y tîm newydd yn dechrau yn eu rolau ar 1 Gorffennaf, 2024.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr etholiad ac a gefnogodd ymgyrch yr etholiad Sabothol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod unrhyw bynciau gyda'n tîm Sabothol ar ôl iddynt ddechrau yn eu rolau, anfonwch e-bost at marketing@undebbangor.com.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...