Gwobrwyo Myfyrwyr am eu Hymrwymiad i Gymdeithasau a Gwirfoddoli

Dydd Mawrth 19-03-2024 - 14:12

Ar 18 Mawrth 2024, cynhaliwyd noson wobrwyo gain i fyfyrwyr yn Neuadd Reichel ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y digwyddiad yn dathlu cyfraniadau unigol myfyrwyr i gymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli. Dechreuodd y noson gydag anerchiad gan Nyah Lowe, sef llywydd presennol Undeb y Myfyrwyr, ac yna gan Mya Tibbs, sydd newydd ei hethol yn Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli ac a fydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Gorffennaf.

Trwy gydol y noson, cyflwynwyd nifer o wobrau, gan gynnwys gwobrau arian ac aur am gyfraniadau eithriadol i gymdeithasau, a gwobrau efydd, arian ac aur am wirfoddoli. Llongyfarchiadau iโ€™r holl enillwyr sydd wedi rhoi yn hael oโ€™u hamser eleni.

Aeth y wobr fwyaf mawreddog, sef Gwirfoddolwr y Flwyddyn, i Hannah Bowler (Sbectrwm). Hoffem ddiolch yn fawr iddi am ei gwaith rhyfeddol drwy gydol y flwyddyn, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl.

Gwobr arall uchel ei pharch yw gwobr Aelod Cymdeithas y Flwyddyn, a gyflwynwyd i Mia Coss o Gymdeithas Theatr Gerdd Bangor. Mae ymroddiad diwyro Mia drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ei hymdrechion wrth lwyfannu sawl cynhyrchiad, yn haeddu canmoliaeth.

Cyflwynwyd gwobrau nodedig eraill, gan gynnwys y canlynol:

- Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn i Gymdeithasau: Kate Adamson

- Newydd-ddyfodiad Gorau i Wirfoddoli: Jack Johnson

- Gwobr Ysbryd Cymunedol: Ben Chandler โ€“ Project Prydau Poeth

- Derbynwyr Gwobrau Santander: Eleanor Morgan a Gwynedd Werdd, Ben Chandler aโ€™r Project Prydau Poeth, Malaak Al Lawati a Sblat, John Toombs a Sbectrwm, Nicolas Perrott ac Afonydd Menai, Cymdeithas Endeavour, Project y Te Parti, a Chyfeillion Lles.

- Gwobr Joseph Marshall am y Cyfle Newydd Gorau: Cymdeithas Podlediadau

- Digwyddiad y Flwyddyn: Cymdeithas Indiaidd - Diwali

- Gwobr Cynaliadwyedd ar gyfer Cymdeithasau: Cymdeithas Endeavour

- Gwobr Cynaliadwyedd ar gyfer Gwirfoddoli: Cyfeillion y Draenog

- Gwobr Codi Arian ar gyfer Cymdeithasau: Cymdeithas Bydwragedd Myfyrwyr Prifysgol Bangor

- Gwobr Codi Arian ar gyfer Gwirfoddoli: Cลตn Tywys

- Project Gwirfoddoli Newydd Gorau: Project Prydau Poeth

- Project Gwirfoddoli y Flwyddyn: Sblat

- Cymdeithas y Flwyddyn: Cymdeithas Endeavour

- Gwobr yr Is-lywydd ar gyfer Cymdeithasau: Nicolas Perrott - Cymdeithas Endeavour

- Gwobr yr Is-lywydd ar gyfer Gwirfoddoli: Ben Chandler aโ€™r Project Prydau Poeth

Daeth y noson i ben gydag anerchiad gan Is-lywydd presennol Cymdeithasau a Gwirfoddoli, Sam Dickens, a wnaeth ddiolch i bawb a gymerodd rhan aโ€™u llongyfarch. Hyderwn fod pawb wedi cael amser gwych, ac unwaith eto, llongyfarchiadau iโ€™r holl enillwyr!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...