Mae’r Caffi Trwsio yn Dychwelyd i Undeb Bangor!

Dydd Gwener 02-02-2024 - 13:08

Yn dilyn ei lwyddiant blaenorol, mae’r Caffi Trwsio yn dychwelyd i Undeb Bangor fel rhan o’r Wythnos Wirfoddoli, a fydd yn digwydd o’r 5ed i’r 11fed o Chwefror. Bydd digwyddiadau wedi'u trefnu drwy gydol yr wythnos, sydd wedi'u trefnu gan fyfyrwyr, ac mae Undeb Bangor yn annog y gymuned leol i fynychu'r 'Caffi Trwsio' i ymestyn ar oes eu heitemau sy’n bwysig iddynt.
Bydd y Caffi Trwsio, a gynhelir gan fyfyrwyr Undeb Bangor, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn cael ei gynnal ddydd Mercher, y 7fed o Chwefror. Bydd y caffi ar agor o 1-4 yh, ac yn canolbwyntio ar atgyweirio gwrthrychau bob dydd fel dillad, beiciau, a dyfeisiau trydanol bach.

Yn ôl Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol Undeb Bangor, “Fe wnaethom gynnal ein Caffi Trwsio llwyddiannus cyntaf ym mis Hydref 2022, gyda chefnogaeth Caffi Trwsio Cymru. Mae ein Caffi Trwsio yn adlewyrchu ein hethos a’n gwerthoedd fel sefydliad. Ar wahân i annog cynaliadwyedd a lleihau gwastraff, maent yn galluogi ein harweinwyr myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad wrth drefnu a’u cyflwyno. Ar ben hynny, rydym wir wedi mwynhau meithrin perthynas â’r gymuned leol. Byddem wrth ein boddau yn adeiladu ar hyn, a rhannu ein sgiliau ag aelodau’r gymuned leol. Os oes gennych unrhyw brofiad atgyweirio neu os hoffech ddod ag eitemau i mewn, byddem wrth ein boddau yn eich gweld yn ein caffi nesaf!”

Mae’r caffi yn cael ei gynnal yn swyddfeydd Undeb Bangor ar 4ydd Llawr Pontio. Mae’r digwyddiad yn gwbl hygyrch trwy lifftiau ac mae’n agored i fyfyrwyr a’r gymuned leol. Bydd y Caffi Trwsio yn darparu cymorth gyda:
· Trwsio dillad
· Trwsio gliniaduron/ cefnogaeth TG lle bo modd
· Trwsio beiciau
· Atgyweiriadau trydanol bach

Mae’r Wythnos Wirfoddoli yn ddathliad blynyddol i’r miliynau o bobl sy’n cyfrannu trwy wirfoddoli yn eu cymunedau. Mae’r Caffi Trwsio yn cydweithio â Chaffi Trwsio Cymru. Yn ôl Charlie Jones, Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu Undeb Bangor, “Mae cael y Caffi Atgyweirio yn ôl yn yr Undeb Myfyrwyr yn wych. Maent yn fuddiol i fyfyrwyr a’r gymuned, gan ganiatáu inni roi ail fywyd i’n heitemau.”

Mae Will Gallon yn wirfoddolwr rheolaidd yn y caffi trwsio, ac mae’n dweud, “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn atgyweirio ers i mi gael fy ngliniadur cyntaf. Dechreuais weithio arno i uwchraddio cydrannau ac esblygodd hyn yn y pen draw i adeiladu fy nghyfrifiadur bwrdd gwaith fy hun a agorodd fwy o lwybrau atgyweirio. Dechreuais ymwneud â'r caffi atgyweirio pan dderbyniais e-bost amdano yn ystod fy ail flwyddyn ym Mangor; daliodd fy niddordeb gan ei fod yn ymddangos fel cyfle da i ymarfer atgyweirio rhai eitemau nad oes gennyf fynediad iddynt fel arfer.”

Bydd gwirfoddolwyr ar y safle o 1 pm tan 4 pm yng nghyntedd Undeb Bangor, 4ydd Llawr Pontio. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y digwyddiad hwn, e-bostiwch repaircafe@undebbangor.com. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://undebbangor.native.fm/event/repair-cafe-clothes-swap-re-usable-period-giveaways/214542

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...