Gwobrau'r Uchel Siryf 2024

Dydd Iau 11-04-2024 - 13:54

Derbyniodd gwirfoddolwyr sydd wedi dangos ymroddiad rhagorol i wirfoddoli yn ystod eu hamser yn y brifysgol Wobrau'r Uchel Siryf. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Neuadd Reichel brynhawn 10/03/2024. Yn bresennol i gyflwyno’r gwobrau oedd Sam Dickins, Is-lywydd presennol Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn Undeb Bangor, Andrew Edwards (Dirprwy Is-Ganghellor), Sarah Foskett (yr Uchel Siryf presennol), Janet Phillips (yr Uchel Siryf blaenorol), a Dr. Dewi Roberts (Uchel Siryf yn 2007-8). 

Cyflwynwyd y wobr hon yn 2007 pan oedd yr Uchel Siryf ar y pryd ac Aelod o Gyngor y Brifysgol, Dr. Dewi Roberts, a'i ddiweddar wraig, Dr. Sheila Roberts, am wobrwyo a chydnabod y cyfraniad y mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ei wneud i'r gymuned leol trwy waith gwirfoddol. 

Eleni, dyfarnwyd tair gwobr unigol ynghyd â chydnabyddiaeth arbennig i 4 project. Enillwyr y gwobrau unigol yw Malaak Al Lawati, Ben Chandler, a Nicolas Perrott. Gwobrwywyd pob un am eu cyfraniadau rhagorol fel gwirfoddolwyr. Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i 4 project gan gynnwys Y Project Prydau Poeth, Afonydd Menai, Caffi Trwsio, a’r Gerddi Iachau. Mae'r holl brojectau hyn wedi bod yn rhan ganolog o'r gymuned. 

Mae Malaak Al Lawati, Arweinydd Project Sblat, ein clwb plant ar ôl ysgol, wedi bod yn allweddol mewn gweithgareddau projectau gwella adeiladau. Mae hi wedi gweithio'n galed i gydweithio â grwpiau myfyrwyr eraill ac adrannau'r brifysgol i ddarparu sesiynau addysgol a chwaraeon i blant. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, crefft ymladd, trin ymlusgiaid a sesiynau gwylio adar.  

Enillodd Ben Chandler wobr unigol a gwobr am ei broject, y project prydau poeth. Mae'r project yn dosbarthu 50-70 o brydau poeth am ddim i unrhyw un sydd eu hangen bob dydd Sadwrn yn Neuadd y Cyngor Dinas Bangor, gyda chefnogaeth gwahanol wirfoddolwyr a chlybiau chwaraeon bob wythnos. Mae'r project hefyd yn gweithio i greu amgylchedd diogel, cynnes i bobl sy'n cael trafferth yn yr argyfwng costau byw. 

Mae Nicolas Perrott wedi cefnogi amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddoli ers dechrau ei radd ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae'n Arweinydd Project ar gyfer Afonydd Menai, project amgylcheddol sy'n gweithio mewn partneriaeth â Menter Môn i warchod poblogaethau bywyd gwyllt lleol a diogelu'r byd naturiol rydyn ni i gyd yn ei fwynhau yng Ngogledd Cymru. Ochr yn ochr â Nicolas, cafodd y project gydnabyddiaeth arbennig hefyd. Mae Nicolas yn cefnogi Te Partïon Undeb y Myfyrwyr yn rheolaidd, sy’n dod â myfyrwyr ac aelodau hŷn o’r gymuned leol ynghyd, gan bontio’r bwlch rhwng cenedlaethau.  

Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig hefyd i'n project Caffi Trwsio dan arweiniad myfyrwyr am ddod ag aelodau o'r gymuned, myfyrwyr a staff y brifysgol at ei gilydd i atgyweirio eitemau sydd wedi torri, gan annog economi gylchol a rhannu sgiliau. Daethpwyd â chyfanswm o 49 o eitemau i mewn hyd yn hyn eleni. Y project olaf i dderbyn cydnabyddiaeth arbennig oedd Yr Ardd Iachau, sy’n gweithio i greu man gwyrdd i’n cymuned leol, myfyrwyr a staff i ymweld ag ef a’i fwynhau unrhyw bryd, gyda’r bwriad o gefnogi eu lles. Mae’r project yn parhau i weithio gyda Dyma Ni Befriending, i hwyluso sesiynau garddio i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac mae’n gobeithio datblygu gardd synhwyraidd gyda chefnogaeth Rhwydwaith Anabledd Undeb y Myfyrwyr.  

Dywedodd Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a’r Gymuned, “Rwy'n hynod falch o'r gwirfoddolwyr a'r projectau sydd wedi ennill Gwobr Uchel Siryf eleni. Rwy’n gweld â’m llygaid fy hun pa mor galed y maent yn gweithio i gefnogi ein cymuned leol. Mae'r wobr hon yn allweddol nid yn unig i gefnogi ac ariannu gweithgareddau, ond hefyd i ddarparu'r gydnabyddiaeth a'r anogaeth y maent yn eu haeddu i'n gwirfoddolwyr anhygoel. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i’w cefnogi i gael effaith ystyrlon ac ni allaf aros i weld beth ddaw yn y dyfodol i’n gwirfoddolwyr a’n projectau!” 

 

Mae Gwobrau’r Uchel Siryf yn uchafbwynt yn y calendr gwirfoddoli bob blwyddyn, ac mae’n anrhydedd cael cydnabyddiaeth i’r gwaith. Hoffai Undeb Bangor ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad, a llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...