Yn sgil maint a chymhlethdod ein bas data o fyfyrwyr, weithiau bydd yn anodd gwybod a yw eich cyfeiriad e-bost wedi'i gofrestru â ni neu beidio. Os ydych chi'n fyfyriwr Prifysgol Bangor ac os ydy eich cyfeiriad yn ymddangos fel cyfeiriad gwestai, cysylltwch â ni yn syth fel bod modd i ni ddatrys y broblem ar eich cyfer. Os nad ydych chi'n fyfyriwr ond hoffech chi greu cyfrif i archebu tocynnau / prynu eitemau o'n siop ayyb. ac mae eich cyfeiriad yn cael ei gydnabod fel cyfeiriad myfyriwr, cysylltwch â ni fel bod modd i ni ei ddileu o'n bas data. Os oes unrhyw broblem arall, e-bostiwch ni: undeb@undebbangor.com