Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff hon, aethom ati i weithio gyda phartneriaid allanol, Swyddfa Dai’r Brifysgol a Champws Byw i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i annog myfyrwyr i ystyried arferion gwastraff cynaliadwy, yn ogystal â glanhau’r ardal leol!

Yn ogystal â chwis, sgwrs gan weithiwr rheoli gwastraff proffesiynol, noson o fwyd dros ben, a gweithdy trwsio dillad, bu hefyd sesiwn codi sbwriel mawr ar hyd a lled campws y brifysgol a thraethau lleol i lanhau ein strydoedd a gwneud y campws yn lle mwy dymunol i fynd ar grwydr. Cynhaliwyd un o'n digwyddiadau costau byw hefyd fel rhan o amserlen yr wythnos, gan roi cyfle i fyfyrwyr gyfnewid neu atgyweirio hen eitemau, yn hytrach na'u taflu!