Cynhaliwyd Wythnos Masnach Deg ym mis Mawrth, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth trwy bostiadau a digwyddiadau addysgol ar y cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn cynnwys stondin smwddi a brownis masnach deg am ddim, ymgyrch rhoddion ar gyfer eitemau Masnach Deg a chwis i godi arian i’r Sefydliad Masnach Deg. Cefnogwyd gweithgareddau eleni gan y Gymdeithas Ddaearyddiaeth a Phroject Gwirfoddoli Masnach Deg.
