Rydym wedi adeiladu ar lwyddiant yr Ymgyrch Costau Byw y llynedd er mwyn cyflawni'r canlynol i fyfyrwyr:

  • Prydau £2 i fyfyrwyr a staff i barhau yn Teras a Bar Uno
  • Gall myfyrwyr ymweld â'n Hystafell Costau Byw (sydd wedi'i lleoli yn Undeb y Myfyrwyr) ar unrhyw adeg i roi, benthyg neu fachu amrywiaeth o eitemau, am ddim, i gefnogi eu hastudiaethau academaidd neu eu bywydau o ddydd i ddydd.
  • Mae gwisgoedd ffansi ar gael am ddim i fyfyrwyr eu gwisgo ar nosweithiau allan a digwyddiadau cymdeithasol. Mae hyn yn cynorthwyo myfyrwyr incwm isel i deimlo'n hyderus a’n gyfforddus i fwynhau nosweithiau gwahanol themâu gyda grwpiau myfyrwyr, heb deimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Gellir benthyca eitemau gwisg o Undeb y Myfyrwyr a'u dychwelyd ar ôl eu defnyddio. Mae hyn hefyd yn lleihau nifer yr eitemau y mae myfyrwyr yn eu prynu i’w defnyddio unwaith, cyn cael gwared arnynt.
  • Mae casgliad o ddillad cyfweliad, gan gynnwys siwtiau ffurfiol, crysau a ffrogiau, hefyd ar gael i'w benthyca gan undeb y myfyrwyr. Mae hyn yn helpu myfyrwyr a all ei chael hi’n anodd fforddio prynu'r eitemau hyn eu hunain, i edrych yn briodol ac yn daclus ar gyfer cyfweliadau swydd, gan roi gwell cyfle iddynt ddod o hyd i waith yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol, a thu hwnt.
  • Deunydd ysgrifennu a nwyddau ymolchi am ddim i fyfyrwyr mewn angen
  • Digwyddiadau Costau Byw sy'n cynnwys ffeirio dillad a’r opsiwn i fanteisio ar gynnyrch mislif am ddim y gellir eu hailddefnyddio. Yn ogystal â hynny, mae ein myfyrwyr gwirfoddolwyr yn darparu Caffi Trwsio, ac yn annog myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol i ddod ag eitemau i mewn i’w trwsio ac i wirfoddoli fel atgyweiriwyr!
  • Mae gennym hefyd Rwydwaith Costau Byw, a gynlluniwyd i helpu pobl i ddod o hyd i gymuned o fyfyrwyr eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddynt. Mae rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith ar gael yma: https://www.undebbangor.com/groups/cost-of-living-network-rhwydaith-costau-byw