Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd noson o sgyrsiau byr am gadwraeth, a oedd yn cynnwys 3 sgwrs, hanner awr o hyd, gan weithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio i wahanol elusennau cadwraeth, sef: Love the Oceans, RSPB Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Amlygodd pob siaradwr y gwaith y mae eu sefydliadau’n ei wneud, yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli posibl, a gyrfaoedd y gallent eu cynnig i fyfyrwyr.

Daeth dros 70 o fyfyrwyr i’r digwyddiad hwn ac roedd yn ddefnyddiol iawn dysgu pa brofiadau all fod ar gael iddynt yn lleol ac yn fyd-eang. O hyn, datblygwyd partneriaeth newydd rhwng y brifysgol ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Bryn Ifan, pan gysylltodd myfyriwr â ni ynglŷn â dechrau project gwirfoddoli newydd gyda’r Ymddiriedolaeth.