Yn ôl yr arfer, buom yn dathlu enillwyr Gwobrau’r Uchel Siryf am Waith Gwirfoddol eleni ar 10 Mawrth!

Llongyfarchiadau i Malaak Al Lawati, Ben Chandler a Nicolas Perrott am eu cyfraniadau eithriadol fel gwirfoddolwyr. Llongyfarchiadau hefyd i'r Project Prydau Poeth, Afonydd Menai, y Caffi Trwsio a’r Gerddi Iachau am eu gwaith caled a'u hymroddiad i gefnogi ein cymuned leol.

Dyfarnwyd cyfanswm o £4,250 i gefnogi datblygiad personol myfyrwyr a gweithgareddau project yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd eu llwyddiant yn parhau!