Hwb Gwirfoddoli

Beth bynnag yw dy nod, mae gwirfoddoli’n gyfle i ddarganfod pwrpas, ffrindiau, ymdeimlad o berthyn a chreu atgofion a fydd gyda ti am byth.

Gwirfoddolwyr yw pileri ein cymuned; gyda diolch iddyn nhw, mae cannoedd o goed wedi’u plannu, miloedd o brydau poeth wedi’u darparu ar gyfer pobl leol sydd mewn angen, cannoedd o gilogramau o sbwriel wedi’u lanhau oddi ar strydoedd a thraethau Bangor, a channoedd o blant wedi’u diddanu. Mae hon yn foment nad wyt am ei cholli!

P’un a’i dy fod yn awyddus i gynnyddu dy gyflogadwyedd, rhoi yn ôl i'r gymuned, neu cwrdd â phobol newydd, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae ein holl brosiectau yn digwydd o dan arweiniad myfyrwyr, a olyga y galli di ddylanwadu ar y gwaith rwyt yn ei gyflawni tra’n datblygu sgiliau gwerthfawr, megis gwaith tîm, arweinyddiaeth, cyfathrebu, creadigrwydd, a datrys problemau. Dyma dy gyfle i fod yn rhan o rhywbeth mawr a gwneud gwir wahaniaeth o fewn y gymuned.

Mae ein cyfleoedd yn hyblyg a gallwn weithio o amgylch eich amserlen chi. Rydym yn cynnig rolau Gwirfoddolwyr Cyffredinol, yn ogystal a safleoedd Arweinydd Prosiect sydd yn gofyn am ymrwymiad uwch ar gyfer y rhai sydd â awydd cymryd mwy o gyfrifoldeb yn dylanwadu ar brosiectau.



Cynnig Prosiect Gwirfoddoli Newydd

Oes gen ti syniad am brosiect gwirfoddoli? Byddem wrth ein bodd yn ei glywed! P’un a’i ei fod yn achos newydd, rhywbeth mae’r gymuned ei angen, neu rhywbeth rwyt ti’n angerddol yn ei gylch, dyweda wrthym am dy syniad a bydd o gymorth i siapio cyfleoedd gwirfoddoli y dyfodol.


Cwestiynau a Chwynion

Oes gen ti gwestiwn neu gwyn am wirfoddoli? Rydym yma i helpu. Cysyllta gyda ni drwy volunteering@undebbangor.com ac fe wnawn ein gorau i dy gefnogi a datrys y mater cyn gynted a phosibl!