Croeso i'r adran Digwyddiadau, sydd yn cynnig arweiniad ar gynllunio, paratoi, a chynnal digwyddiad llwyddiannus. Yma gallwch ddarganfod cefnogaeth ymarferol ar sut i gwbwlhau asesiad risg, gwahodd siaradwyr allanol, trefnu gwerthiannau pobi, ac ymdrin â’r camau allweddol sydd rhaid eu cymryd wrth gynnal digwyddiad.
Mae’r adran hon wedi’i llunio er mwyn ateb dy gwestiynau, dy heplu i oresgyn unrhyw rwystrau, a rhoi’r hyder i ti sicrhau bod dy ddigwyddiadau’n rhedeg yn esmwyth.

Mae’r weithdrefn siaradwyr allanol yn sicrhau bod pob siaradwr allanol â wahodddir i ddigwyddiadau myfyrwyr wedi’i cymeradwyo ac yn derbyn cefnogaeth cyn y cynhelir y digwyddiad. Yr hyn a olygir wrth y term siaradwr allanol yw unrhyw un sydd ddim yn fyfyriwr yn Undeb Myfyrwyr Bangor.
Er ein bod yn annog cymdeithasau, clybiau, a phrosiectau gwirfoddoli i wahodd siaradwyr allanol, mae’n ofynnol iddynt ddilyn y broses gymeradwyo cyn hyrwyddo’r digwyddiad. Mae hyn o gymorth i sicrhau bod digwyddiadau’n ddiogel, llwyddiannus, a bod pawb yn derbyn y gefnogaeth gywir.
Mae’r adran hon yn darparu canllawiau ar sut i gynnal gwerthiannau pobi yn ddiogel a chyfrifol, gan nodi’r risgiau allweddol sydd i'w ystyried a’r camau y dylid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth. O ystyriaethau diogelwch a hylendid bwyd i reoli risgiau posibl, bydd y canllaw hwn o gymorth i sicrhau dy fod yn teimlo’n hyderus ac yn gymwys i drefnu gwerthiant pobi.
Mae Asesiadau Risg o gymorth i chi ragweld peryglon posibl, ystyried pwy allai gael eu effeithio, a rhoi’r camau cywir yn eu lle er mwyn lleihau’r risgiau yn ystod eich digwyddiadau a gweithgareddau. Mae’r adran hon yn darparu canllawiau ar sut i gwbwlhau asesiad risg, beth y dylid ei ystryried, a sut i sicrhau bod dy weithgareddau’n ddiogel ac wedi’i cynllunio’n briodol.
Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i drafod yr hyn ddigwyddodd dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf gan werthuso’r hyn oedd yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, gan edrych ymlaen tuag at y dyfodol. Mae’r CCB hefyd yn gyfle i gyflwyno’r ymgeiswyr newydd sydd yn ceisio am le ar y pwyllgor ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Gall ymgeiswyr draddodi araith a chyflwyno eu hunain i weddill y grŵp, gan amlinellu eu nodau ac amcanion ar gyfer y dyfodol. Gallwch gynnal y CCB unrhyw le ac mae modd archebu ystafell drwy gwbwlhau’r ffurflen hon. Unwaith y byddwch wedi ethol eich pwyllgor newydd, bydd angen i chi ebostio opportunities@undebbangor.com gyda manylion yr ymgeiswyr llwyddiannus gan gynnwys eu cyfeiriad ebost Bangor, eu rôl a’i enw.