Yma gallwch ddarganfod dogfennau allweddol, polisiau, adroddiadau a gwybodaeth sydd yn egluro sut mae'r Undeb yn gweithredu ac yn cynrychioli myfyrwyr.
Mae'r dudalen hon yn darparu tryloywder ynghylch ein penderfyniadau, strwythurau gweithredu, adroddiadau ariannol, a chyfrifoldebau ein swyddogion etholedig a'n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
P'un a'i eich bod yn awyddus i gael gwell dealltwriaeth o sut mae'r undeb yn gweithio, mynediad at ddogfennau swyddogol, neu yn awyddus i ddal i fyny gyda chyfarfodydd ac adroddiadau, mae modd darganfod popeth mewn un lle yma.
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynau am y wybodaeth a ddarperir, cysylltwch gyda tîm ymholiadau cyffredinol Undeb y Myfyrwyr drwy ebostio undeb@undebbangor.com.
Mae'r is-ddeddfau'n cynrychioli canllawiau parhaol a chyfredol ar sut y dylai Undeb Bangor gael ei rhedeg.
Mae Erthyglau'r Cyfansoddiad yn datgan:
Diben y cytundeb hwn yw nodi'n glir natur y berthynas rhwng y Brifysgol a'r Undeb a'r rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau sydd yn codi.
Mae'r cytundeb Rhannu Data yn llywodraethu'r broses o drosglwyddo a darparu gwybodaeth bersonol myfyrwyr rhwng Prifysgol Bangor ac Undeb Bangor ac at ba ddibenion y bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei ddefnyddio gan Undeb Bangor.
Cydweithiodd Prifysgol Bangor a Undeb y Myfyrwyr ar ddatblygu'r siarter hwn. Rydym yn ymwybodol y gallwn gyflawni llawer mwy drwy gydweithio ac mae'r siarter hwn yn amlinellu ein ymrwymiad ar y cyd er mwyn creu gwelliannau cyson i brofiadau academaidd ein holl fyfyrwyr.
Ei ddiben yw darparu trosolwg o gyfrifoldebau a'r disgwyliadau sydd o holl bartneriaethau'r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr. Caiff ei arolygu'n flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn elusen cofrestredig ac yn unol â Chyfraith Elusen mae'n orfodol iddi gyflwyno adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolwyr ac archwiliad o'i chyfrifon i Gomisiwn y Gadeiryddiaeth.
Adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr yw'r rhan naratifol o'r cyfrifon. Mae'n cynnwys gwybodaeth am yr elusen, sut y caiff ei redeg, ei weithgareddau a'i chyflawniadau, ac mae'n gymorth i egluro'r ffigyrau yn y cyfrifon.
Mae Undeb Bangor yn gysylltiedig â sawl corff allanol sydd o gymorth wrth i ni barhau gyda'n gwaith ar ran y corff myfyrwyr mor effeithiol a phosibl
Rydym mewn cysylltiad â NUS UK a Elusen NUS. Mae NUS UK yn cynrychioli ac yn ymgyrchu dros fyfyrwyr yn genedlaethol, tra bod Elusen NUS yn cefnogi undebau myfyrwyr yn uniongyrchol. Drwy Wasanaethau NUS Limited, rydym hefyd yn elwa o allu prynu'n fosegol ar y cyd gyda undebau myfyrwyr eraill.
Rydym yn aelodau o BUCS, sydd yn galluogi myfyrwyr i gystadlu mewn cystadleuthau chwaraeon wedi'i trefnu yn erbyn prifysgolion eraill ar draws Prydain.