Etholiadau Swyddogion y Myfyrwyr yn Undeb Bangor yw dy gyfle i ddewis dy gynrychiolwyr myfyrwyr a fydd o gymorth i liwio dy fywyd prifysgol. Mae’r Swyddogion Myfyrwyr yn gweithio llawn amser ochr yn ochr â staff Undeb Bangor ar 4ydd llawr, Pontio ym Mangor, yn gweithredu fel llais myfyrwyr ar draws y Brifysgol tra’n cefnogi ymgyrchoedd, digwyddiadau, a gwneud penderfyniadau allweddol.
Os oes gennyt ddiddordeb mewn sefyll neu yn awyddus i ddysgu mwy am sut mae’r broses yn gweithio, mae cefnogaeth ar gael drwy gydol pob cam o’r daith tuag at yr etholiad.
Cynrychiolwyr Myfyrwyr etholedig yw’r Swyddogion Myfyrwyr, sydd yn gweithio ochr yn ochr â staff llawn amser Undeb Bangor, yn helpu i liwio ymgyrchoedd a digwyddiadau yn ogystal a bod yn lais ar gyfer myfyrwyr ar y lefelau uchaf ar draws y Brifysgol. Mae’r Swyddogion Myfyrwyr wedi eu lleoli yn Undeb Bangor ar 4ydd llawr, Pontio ym Mangor ac yn gweithio 37.25 awr yr wythnos. Gan fod rôl swyddog yn un llawn amser, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus roi saib i'w astudiaethau er mwyn cyflawni’r rôl. O ganlyniad i'r Ddeddf Addysg, gall Swyddog Myfyriwr barhau yn ei rôl am uchafswm o ddwy flynedd.
Er dy fod yn derbyn tal fel Swyddog Myfyriwr, nid swydd gyffredin mohoni ble rwyt yn ymgeisio, derbyn cyfweliad a chael cynnig y swydd. Yn hytrach, caiff y Swyddogion Myfyrwyr eu dewis drwy gyfrwng etholiad sydd ar agor i holl fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Bangor. Mae’n cymryd dewrder i roi dy hun ymlaen fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y Swyddogion Myfyrwyr a dyna pam mae’r Tîm Etholiad yma i'th gefnogi.
Yn agor yn mis Ionawr. Bydd myfyrwyr yn enwebu eu hunain i redeg am un o’r pedwar rôl yn yr etholiad trwy gyflwyno eu maniffesto. Yna byddi’n derbyn gwahoddiad i sesiwn briffio er mwyn gwella dy ddealltwriaeth o’r hyn fydd yn digwydd nesaf.
Bydd hyn yn digwydd yn ystod yr wythnos cyn i'r bleidlais agor. Dyma dy gyfle i fod yn bresennol o amgylch y campws ar ben dy hun neu gyda tîm o gyfeillion, yn siarad ac yn egluro i fyfyrwyr pam y dylent bledleisio drosto.
Bydd hyn yn digwydd dros gyfnod o 2 ddiwrnod a hanner yn ystod mis Mawrth. Gellir pledleisio ar wefan Undeb Bangor, a bydd staff yn cerdded o amgylch y campws gyda dolenni ar sut i bledleisio.
Cynhelir Noson y Bleidlais ym Mar Uno. Byddwn yn cyhoeddi’r swyddogion newydd ac mae hefyd yn gyfle i ddathlu gwaith caled pawb a gymerodd ran yn yr etholiad.
Mae ganddom 4 safle Swyddogion Myfyrwyr ar gael ar hyn o bryd.