Mae UMCB yn undeb sydd wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd myfyrwyr Cymraeg eu iaith ym Mhrifysgol Bangor a hynny’n gymdeithasol ac yn academaidd. Ers ei sefydlu yn 1976, rydym yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi bywyd a gwaith cyfrwng Cymraeg y brifysgol er mwyn cryfhau y bywyd cymdeithasol Cymraeg drwy gydweithio gyda cymdeithasau cysylltiedig.
Yn academaidd rydym yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Canolfan Bedwyr, ac adrannau eraill o fewn y brifysgol yn sichrau y gweithredir ar yr hawliau a amlinellwyd gan Gomisynydd yr Iaith Gymraeg yn 2018. Os y codir unrhyw fater yn ystod y flwyddyn, peidiwch oedi cyn cysylltu gyda ni, rydym yma i dy gynrychioli a’th gefnogi.
Caiff UMCB ei arwain gan bwyllgor etholedig gwirfoddol o fyfyrwyr, sydd yn eistedd wrth galon ein ymgyrchoedd a’n gweithgareddau. Mae’r pwyllgor wastad yn barod i glywed dy syniadau a dy gefnogi drwy gydol dy gyfnod ym Mangor.
JMJ (John Morris-Jones) yw neuadd breswyl Gymraeg Prifysgol Bangor, hi yw calon y gymuned myfyrwyr Cymraeg. Gyda’i neuadd gyffredin ei hun, mae JMJ yn cynnal ystod eang o weithgareddau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys partion, twrnamentau dartiau, ymarferion côr, a llawer mwy. Mae awyrgylch groesawgar i’w gael yn JMJ ac mae preswylio yno yn cynnig cyfleoedd i’r myfyrwyr ffurfio cyffeillgarwch oes a chreu atgofion bythgofiadwy.
Clybiau chwaraeon cyfrwng Cymraeg Bangor yw Chwaraeon y Cymric, mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr hyfforddi a chystadlu mewn ystod eang o chwaraeon, gan gynnwys, pêl-rwyd, hoci a dartiau. Mae’r timau’n hyfforddi’n wythnosol, gan gystadlu yn erbyn clybiau Undeb Athletaidd Prifysgol Bangor, ac yn falch o gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol yn erbyn Y Geltaidd sef Prifysgol Aberystwyth. P’un a’i dy fod yn chwaraewr profiadol neu’n awyddus i roi cynnig ar rhywbeth newydd, mae gan Chwaraeon y Cymric rhywbeth at ddant pawb.
Wyt ti’n awyddus i wella dy Gymraeg tra’n cwrdd â pobol newydd? Mae’r Prosiect Ffrind Cymraeg yn cynnig cyfle i ddysgwyr ymarfer eu cymraeg mewn modd answyddogol ac ymlaciedig gyda siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae’n gyfle euraidd i feithrin hyder, datblygu dy sgiliau iaith, creu ffrindiau newydd ac ehangu dy bosibiliadau cyflogadwyedd drwy gyfathrebu’n ddwyieithog.
Mae Cymdeithas John Gwilym Jones yn berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg, iaith a pherfformio. Mae’r gymdeithas yn annog ei aelodau i ddarganfod ystod eang o lenyddiaeth Gymraeg a ffurfiau ysgrifennu tra’n datblygu sgiliau creadigol, dadansoddol a pherfformio mewn awyrgylch gefnogol.
Mae lles myfyrwyr yn flaenoriaeth gennym yn UMCB. Sefydlwyd Siop Siarad gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles o fewn y gymuned o fyfyrwyr Cymraeg. Mae’r prosiect, o gymorth i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r gwasanaethau lles Cymraeg ar gael, sicrhau bod pawb yn ymwybodol o ble y gallant ddarganfod cymorth a ffurfio cymuned groesawgar a chefnogol ble nad oes neb yn teimlo’n unig.
Côr Cymraeg Prifysgol Bangor yw Aelwyd Jmj ac mae’n croesawu cantorion o bob gallu. Mae’r côr yn ymarfer yn wythnosol ac yn perfformio’n gyson drwy gydol y flwyddyn. Yn adnabyddus am ei llwyddiannau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, mae Aelwyd JMJ yn parhau i gynrychioli’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg eu iaith drwy eu perfformiadau ar draws Cymru. Ochr yn ochr â’r gerddoriaeth mae’r aelodau yn mwynhau’r calendr cymdeithasol sydd yn sicrhau bod y côr yn ffordd wych o gyfarfod pobol newydd ac yn cyfoethogi’r profiad o fod yn y brifysgol.
Y Cymric yw adain gymdeithasol UMCB. Caiff ei arwain gan pedwar swyddog myfyriwr etholedig sydd yn gyfrifol am drefnu rhai o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y gymuned drwy gydol y flwyddyn. O Clwb Cymru (ein noson gwisg ffansi chwedlonol) a nosweithiau cwis cyson i Pentre Bach, sef taith o amgylch tafarndai mewn pentref lleol, a nifer o ddigwyddiadau eraill. Mae’r Cymric yn sicrhau bod yna wastad rhywbeth i edrych ymlaen ato. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i wneud cyfeillgarwch oes, dathlu diwylliant Cymraeg, a chreu atgofion bythgofiadwy yn ystod dy gyfnod ym Mhrifysgol Bangor.
Mae ganddom Gynrychiolwyr Ysgol Cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol ar draws y brifysgol. Maent yn gyfrifol am gynrychioli lleisiau a hawliau pob myfyriwr Cymraeg ei iaith, p’un a’i eu bod yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesnaeg.
Maent yn mynychu Cyfarfodydd Pwyllgor Materion y Gymraeg gyda staff eu ysgol er mwyn trafod adborth penodol yn ogystal a chyfarfod gyda Llywydd UMCB er mwyn bwydo mewn i brosiectau ar draws y brifysgol.