Swyddi

Wyt ti'n chwilio am swydd a fydd yn dy alluogi i weithio o amgylch dy astudiaethau ac wrth galon y bywyd myfyriwr yn hytrach nac ar ei chyrion? Rwyt ti yn y lle cywir!

A staff member sat at their desk smiling

Mae gan ein Undeb Myfyrwyr ystod eang o rolau hyblyg a gwobrwyedig ar gyfer myfyrwyr, sydd wedi'i llunio ar gyfer cynnig profiadau gwych i fyfyrwyr tra'n cyflawni eu astudiaethau, a hynny i gyd o fewn awyrgylch gefnogol o dan arweiniad myfyrwyr. P'un a'i dy fod yn greadigol, trefnus, cymdeithasol, neu yn hoff o gyflawni gwaith gwych yn dawel tu ôl i'r llen, mae ganddom rhywbeth at ddant pawb.

Rydym yn recriwtio'n gyson ar gyfer rolau ar draws meysydd megis y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys, cefnogi chwaraeon a chymdeithasau, cydlynnu gwirfoddoli, gwaith derbynfa, cyfieithu i'r Gymraeg, a llais myfyrwyr a chynrychiolaeth . Mae gan bob rôl ran bwysig wrth sicrhau fod Undeb y Myfyrwyr yn ofod ymgysylltiol, cynhwysol ac ymatebol ar gyfer ein myfyrwyr.

Nid swydd yn unig mohoni, mae'n gyfle i feithrin hyder, datblygu sgiliau ymarferol, cwrdd â phobol newydd, a chyfrannu'n uniongyrchol tuag at brofiad myfyrwyr.

Darganfydda fwy am ein swyddi cyfredol ac ymgeisia drwy gyfrwng porth swyddi'r brifysgol isod.

Swyddi gwag cyfredol