Oes gennyt rhywbeth ar dy feddwl? Paid aros am yr “amser iawn”, mae modd i ti wirio ein ymgyrchoedd cyfredol isod neu mynd amdani’n syth drwy ein ffurflen Creu Newid unrhyw bryd er mwyn rhannu dy syniadau.
Caiff ein ymgyrchoedd eu lliwio gan yr hyn sydd yn bwysig i fyfyrwyr. Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn gwrando’n astud ar adborth ac awgrymiadau myfyrwyr er mwyn bod o gymorth i gyfarwyddo’r materion rydym yn gweithio arnynt a’r newidiadau rydym yn gweithio tuag atynt. Ochr yn ochr â hyn, bydd ein Swyddogion Myfyrwyr etholedig yn cyflwyno syniadau a blaenoriaethau o’u maniffesto’s er mwyn sicrhau y cynrychiolir lleisiau myfyrwyr ar bob lefel.
O amgylch y cyfnod arholiadau ac yn ystod wythnosau a misoedd lles, mae Undeb Bangor yn rhedeg ei ymgyrch Cymorth Astudio hir hoedlog er mwyn cefnogi myfyrwyr drwy’r cyfnodau mwyaf heriol. Mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Lles y Brifysgol, rydym yn cynnig te, coffi ac ystod misoedd cynhesach yr haf, hufen iâ ochr yn ochr â phecynau therapi, ac adnoddau defnyddiol eraill a hynny i gyd am ddim!
Ein bod wedi cynnal Cymorth Astudio yn flynyddol ers Ionawr 2014!
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cynhyrchion mislif ailddefnyddadwy am ddim drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys padiau ailddefnyddadwy, cwpanau mislif a dillad isaf mislif. Cadwa lygaid allan am yr ymgyrchoedd sydd ar y gweill a phaid colli’r cyfle i dderbyn eitemau defnyddiol.
Mae ein ymgyrchoedd Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn cefnogi lles myfyrwyr drwy gynnig addysg cynhwysol a chodi ymwybyddiaeth am ryw a pherthnasoedd. Rydym yn cydweithio â sefydliadau lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor gael mynediad at ddeunyddiau atalgenhedlu a phecynau profi STI am ddim, ochr yn ochr â chynnal stondinau iechyd rhywiol a ddarperir wybodaeth, adnoddau a thrafodaethau agored ynglŷn â pherthnasoedd iach a lles rhywiol.
Gellir cael gwybodaeth a chefnogaeth pellach drwy’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, gan gynnwys deunyddiau atalgenhedlu am ddim a gwasanaeth profi STI drwy’r post.
Rydym wedi partneru gyda’r Cwmni Addysg Rhyw er mwyn creu cyfres o fidoes addysgol byr sydd yn canolbwyntio ar ryw a pherthnasoedd iach. Dolen i'w gwylio isod!
Gellir casglu deunyddiau atalgenhedlu, profion STI, a phrofion beichiogrwydd am ddim o Undeb y Myfyrwyr. Maent wedi ei lleoli wrth ochr y dderbynfa ac yn y toiledau hygyrch o fewn yr adeilad.
Mae ein Lle Ge yn ofod diogel, cynhwysol a chroesawgar ar gyfer ein holl fyfyrwyr LHDTC+ ac wedi’i leoli o fewn yr Undeb. Mae’n ofod i ymlacio, meithrin cysylltiad gyda eraill, darganfod cefnogaeth, neu bachu moment dawel yn ystod y dydd.
ae’r gofod wedi’i leoli yn ardal derbynfa Undeb y Myfyrwyr ac ar agor o ddydd Llun i Gwener, 9yb-5yh. Holwch yn y dderbynfa er mwyn cael mynediad i'r ystafell, a bydd aelod o staff yn fodlon eich helpu i fynychu.
P’un a’i eich bod yno i gymdeithasi, astudio, neu threulio amser ar eich pen eich hun, mae wastad croeso.
Gofod fyw myfyrwyr yw’r Lolfa, wedi ei ddylunio ar gyfer cynnig cysur, cysylltiadau a seibiant oddi wrth fywyd prysur prifysgol. Wedi’i leoli ar 3ydd llawr Pontio, mae i'w ddarganfod ger y fynedfa drws nesaf i labordy neu FabLab y Brifysgol.
Bydd angen cerdyn myfyriwr arnot i fynchu’r ystafell, felly sicrha ei fod gennyt er mwyn cael mynediad.
Yn yr ystafell mae popeth sydd angen arnot i ymlacio rhwng dosbarthiadau: popty ping, oergell, tecell, cadeiriau cyfforddus, gemau, teledu a hynny am ddim i fyfyrwyr eu defnyddio. P’un a’i dy fod eisiau astudio, cymdeithasu, neu gymryd seibiant, mae’r Lolfa yma i ti.
Mae’r Hwb Gweithgareddau yn ofod y gellir ei archebu er mwyn dod a chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr ynghyd, cynnal digwyddiadau, ymarfer a meithrin cymuned.
Wedi’i leoli uwchben BarUno ar safle Neuaddau preswyl Ffriddoedd, mae’r hwb yn cynnig sawl ystafell hyblyg y gellir eu archebu, gan gynnwys ardal cegin ar gyfer paratoi bwyd a gweithgareddau cymdeithasol.
Mae angen cerdyn myfyriwr er mwyn mynychu’r adeilad, felly sicrha dy fod yn dod ag ef gyda ti pan yn ymweld.
P’un a’i dy fod yn cynllunio cyfarfod cymdeithas, cynnal gweithdy neu ddigwyddiad, mae’r Hwb Gweithgareddau yma i gefnogi dy brofiad fel myfyriwr.
Mae ein Ystafell Synhwyraidd yn ofod cefnogol, llonydd a thawel wed’i leoli yn yr Hwb Gweithgareddau Myfyrwyr ar safle Neuaddau Preswyl, Ffriddoedd. Wedi’i ddylunio fel gofod pwrpasol, mae ar gael ar gyfer ein holl fyfyrwyr a staff a all werthfawrogi’r buddion o dreulio amser mewn gofod heddychlon, ar gyfer ymlacio neu gael seibiant oddi wrth ofodau swnllyd a phrysur.
Mae’r ystafell yn fuddiol ar gyfer myfyrwyr niwrowahanol, sydd â gorbryder neu sensitiftwydd swynhwyraidd, mae’n darparu gofod diogel a chroesawgar sydd yn cefnogi lles drwy gydol y dydd.
Nid oes rhaid datgan anabledd neu reswm penodol dros fynychu’r Ystafell Synhwyraidd. Fodd bynnag, rydym yn annog myfyrwyr i gysylltu â Gwasanaethau Anabledd y Brifysgol er mwyn darganfod yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael.
Er mwyn defnyddio’r Ystafell Synhwyraidd, mae’n rhaid i fyfyrwyr gofrestru eu diddordeb er mwyn cael mynediad at y system gofrestru ar-lein.
Cyflwynwyd gan: Arwen Wall
Yn dechrau ym mis Medi
Yn dechrau ym mis Medi
Yn dechrau ym mis Medi
Yn dechrau ym mis Medi