Cynrychiolwyr Ysgol

Gwirfoddolwyr yw’r Cynrychiolwyr Ysgol sydd yn gweithredu fel dolen rhwng myfyrwyr, dy ysgol a Undeb Bangor. Maent yn sicrhau bod adborth myfyrwyr yn cael ei gasglu a’i rannu drwy gydweithio gyda staff ysgol ac Undeb Bangor er mwyn sicrhau y gellir gwneud newidiadau positif i dy brofiad academaidd. Mae’n bwysig dy fod yn gwybod pwy yw dy gynrychiolwyr a sut y gellir rhoi adborth er mwyn sicrhau y gellir trafod a rhoi gwelliannau yn eu lle.


Darganfod pwy yw fy Nghynrychiolwyr Ysgol

Myfyrwyr yn dy ysgol sydd â’r rôl o gasglu a rhannu adborth gyda staff ysgol yw dy Gynrychiolwyr Ysgol. Darganfydda pwy yw dy gynrychiolwyr er mwyn dy alluogi i gyflwyno adborth iddynt pan fo angen.


Cynnig Adborth i Fy Nghynrychiolwyr Ysgol

Mae modd i ti roi adborth i dy Gynrychiolwyr Ysgol ar dy brofiad academaidd (p’un a’i ei fod yn bositif neu’n negatif) unrhywbryd. Mae pob adborth yn gyfrinachol oni bai dy fod yn dymuno rhannu dy fanylion cyswlllt.

Cyflwyno Adborth ar dy Brofiad Academaidd


Dod yn Gynrychiolydd Ysgol

Os wyti’n angerddol dros wneud newidiadau, gwella profiadau academaidd myfyrwyr a sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed, dyma’r rôl i ti!

Fel Cynrychiolydd Ysgol, byddi’n casglu a dadansoddi adborth, cydweithio gyda staff dy ysgol a chyyd-gynrychiolwyr tra’n creu newidiadau dylanwadol ar gyfer dy ysgol a’th garfan.

Mae’n ffordd ddelfrydol o wella dy sgiliau a meithrin hyder. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i gamu ymlaen a chynrychioli eu cyd-fyfyrwyr ar draws yr holl lefelau astudio, o fyfyrwyr Is-raddedig i PhD.

Cofrestra


Cofnodi fy Oriau fel Cynrychiolydd

Mae’n bwysig dy fod yn cadw golwg ar dy oriau gwaith fel cynrychiolydd drwy gofnodi dy oriau. Gellir cofnodi unrhyw amser rwyt yn ei dreulio’n siarad gyda myfyrwyr, dadansoddi adborth, cwrdd gyda’r cynrychiolwyr eraill, cwrdd gyda staff dy ysgol fel oriau’n gweithio fel Cynrychiolydd Ysgol.

Danny, Education Officer
Ross, UMCB Officer

Helo, Danny a Ross sydd yma, dy Swyddog Addysg Addysg ac Swyddog UMCB. Rydym yn gweithio gyda’r Cynrychiolwyr Ysgol ymroddedig er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, yn creu newidiadau dylanwadol mewn partneriaeth gyda ein ysgolion ar draws Prifysgol Bangor gan sicrhau fod dim un myfyriwr yn teimlo fel eu bod yn cael eu gadael allan.

E-bostiwch Danny E-bostiwch Ross E-bostiwch dîm Llais Myfyrwyr