Eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan yw rhai o’ch adnoddau mwyaf gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo eich grŵp myfyrwyr, ymgysylltu â aelodau, ac arddangos popeth sydd gan eich cymdeithas i'w gynnig. Mae’n allweddol eich bod yn diweddaru’r llwyfannau hyn yn gyson er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, atynnu myfyrwyr newydd, a meithrin presenoldeb cryf ac adnabyddus ar ac oddi ar y campws.
Bydd yr adran hon yn cynnig arweiniad ar sut i reoli eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys ymgysylltiol, hyrwyddo digwyddiadau, a defnyddio adnoddau ar-lein yn effeithiol. Mae hefyd yn cynnwys ein polisi cyfryngau cymdeithasol, canllawiau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, a chanllawiau ar sut i wneud defnydd diogel, proffesiynnol a chynhwysol o’ch llwyfannau digidol.

Paid anghofio crybwyll @Undeb_bangor ar Instagram, Linkedln a Facenook. Byddem wrth ein bodd yn dathlu’r hyn rwyt yn ei gyflawni ac yn fodlon ailrannu dy bostiadau er mwyn dy helpu i ehangu dy gynulleidfa!
Mae hyrwyddo dy grŵp myfyrwyr yn ffordd wych o ddenu aelodau newydd a chynyddu ymgysylltiad. Rydym yn annog pob grŵp i ddefnyddio dulliau amrywiol o hyrwyddo, o’r cyfryngau cymdeithasol, eich tudalen gwe Undeb Bangor, i ddeunyddiau printedig er mwyn hysbysebu eich gweithgareddau. Cofiwch:
Darperir adran ar gyfer pob grŵp ar wefan Undeb Bangor ble y gallwch reoli gwybodaeth am eich grŵp, weld eich aelodau, cyfathrebu gyda myfyrwyr, a llawer mwy.
Er mwyn cael mynediad at yr ochr weinyddol, mae’n rhaid dy fod yn aelod cofrestredig o’r pwyllgor ac yn aelod gweithredol o dy grŵp. Ar dechrau pob blwyddyn academaidd, byddwn yn anfon ffurflen atoch er mwyn casglu y wybodaeth ddiweddaraf am eich grŵp, gan gynnwys logo, amser hyfforddi, dolenni cyfryngau cymdeithasol, a disgrifiad o’r grŵp.
Byddwn yn diweddaru’r manylion yma ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ac yn darparu adnoddau i'ch helpu i reoli a diweddaru eich tudalen we wedi i chi dderbyn mynediad.