Rydym yn cynnig dau fath Docynau Chwaraeon Blynyddol yn ddibynnol ar sut yr wyt yn dymuno cymryd rhan:
Mae’r aelodaeth arian yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau hyfforddi, cadw’n actif, a chymryd rhan yn hamddenol o fewn clybiau chwaraeon Bangor. Mae’r aelodaeth hwn yn alluogi i fynychu sesiynau hyfforddi, cymryd rhan yng nghweithgareddau’r clybiau, a mwynhau’r elfennau cymdeithasol o chwaraeon ym Mangor.
Mae’r Aelodaeth Aur yn cynnwys popeth o fewn yr aelodaeth arian, tra hefyd yn gwneud myfyrwyr yn gymwys i gynrychioli myfyrwyr yng nghystadleuaethau swyddogol BUCS (chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydeinig).
Nodwch fod aelodaeth aur yn orfodol er mwyn cymryd rhan mewn rhai clybiau megis Rhwyfo a Tan-ddŵr o ganlyniad i natur y gweithgareddau a gofynion y gystadleuaeth.
Unwaith yr ydych wedi prynu eich Aelodaeth Chwaraeon Flynyddol, mae croeso i chi ymuno gyda unrhyw glwb chwaraeon cysylltiedig heb dalu unrhyw ffioedd aelodaeth ychwanegol.
Prynu eich aelodaeth Undeb Athletau
Wedi i ti brynu dy Aelodaeth Chwaraeon, bydd gofyn i ti ymweld â 4ydd Llawr Pontio er mwyn casglu dy sticer aelodaeth. Bydd y sticer yn cadarnhau dy aelodaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd ac efallai bydd gofyn i ti ei ddangos wrth fynychu gweithgareddau’r clybiau, sesiynau hyfforddi, neu gystadleuaethau.