Undeb Bangor yw dy Undeb Myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Bangor, ac rydym yma i dy helpu i ymgartrefu a gwneud y gorau o dy amser yma o’r dechrau un.
Rydym yn cynrychioli dros 10,000 o fyfyrwyr ac yn eich cefnogi drwy bopeth o gyngor academaidd a chynrychiolaeth i chwaraeon, cymdeithassau, gwirfoddoli a digwyddiadau. Fel elusen annibynol rydym yn gweithio’n agos â’r Brifysgol er mwyn sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed ac y caiff dy brofiad fel myfyriwr ei siapio genti.
Yn ogystal a hynny rydym yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog a chynhwysol, ac mae UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yma i ddathlu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ar draws y campws. P’un a’i dy fod yn rhugl, yn ddysgwr, neu’n chwilfrydig, mae croeso i ti ymuno.
P’un a’i dy fod eisiau cymryd rhan yn gymdeithasol, datblygu sgiliau newydd neu ddarganfod cefnogaeth, mae Undeb Bangor yma i'th gefnogi drwy gydol dy amser yn y brifysgol.
Byddwn yn sicrhau bod siâp eich llais yn newid, yn eich helpu i ddod o hyd i'ch cymuned, yn dathlu pwy ydych chi, ac yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi ffynnu.