Mae Tocyn Aelodaeth Cymdeithasau yn bryniant blynyddol un tro sy'n rhoi mynediad llawn i gymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor ac yn cefnogi cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a chymunedau dan arweiniad myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Unwaith y byddi wedi prynu dy Aelodaeth Cymdeithasau, rwyt yn rhydd i ymuno â chyn gymaint o gymdeithasau ac yr wyt yn ddymuno heb unrhyw gostau pellach!
Wedi i ti brynu dy Aelodaeth Cymdeithasau, bydd gofyn i ti ymweld â Undeb y Myfyrwyr ar 4ydd Llawr Pontio er mwyn casglu dy sticer aelodaeth. Bydd dy sticer yn cadarnhau dy aelodaeth am y flwyddyn academaidd ac efallai bydd gofyn i ti ei ddangos wrth fynychu gweithgareddau neu digwyddiadau’r cymdeithasau.