Yn ystod Wythnos Wirfoddoli, daeth ein harweinwyr myfyrwyr ynghyd i gyflwyno rhaglen hwyliog o ddigwyddiadau a fyddai’n annog myfyrwyr newydd mewn i wirfoddoli. Mae rhai uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Mynychodd 45 o fyfyrwyr ein sesiwn glanhau traeth ym Miwmares, gan gasglu 10 bag llawn o sbwriel, dysgu am gadwraeth afonydd lleol gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru a mwynhau sglodion am ddim i orffen!
  • Bu gwirfoddolwyr yn helpu i blannu 2205 o goed ym Mryn Ifan, gwarchodfa newydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd hyn yn nodi lansiad ein project plannu coed newydd, mewn partneriaeth â'r ymddiriedolaeth.
  • Cyflwynwyd 42 o eitemau i’n Caffi Trwsio, gyda 10 eitem yn cael diagnosis a 26 yn cael eu trwsio!
  • Daeth ein Grŵp Codi Arian a Rhoi a’n Project Cŵn Tywys ynghyd i gyflwyno cwis tafarn ac i godi arian ar gyfer elusen.
  • Cyflwynodd ein Projectau Llesiant, Cyswllt a Chyfeillion Lles, ddiwrnod llwyddiannus yn Sw Mynydd Cymru i fyfyrwyr fwynhau a chysylltu â phobl eraill a byd natur.