Gallwn gadarnhau bod y Brifysgol ar y trywydd iawn i brofi gostyngiad o 25% yn ein hallyriadau erbyn 2025!

Fe wnaethom ymuno â'r sefydliad i gynnal ymgyrch a oedd yn gwahodd pobl i gyflwyno eu cynigion ar sut y gallai'r brifysgol leihau allyriadau, gyda dros 40 o gynigion yn cael eu cyflwyno.

Y prif feysydd y canolbwyntir arnynt wrth leihau allyriadau yw ynni, teithio a gwastraff.

Mae’r datrysiadau sy’n cael eu gweithredu a’u cynllunio’n cynnwys mwy o ddefnydd o baneli solar ar adeiladau'r brifysgol, mesuryddion ynni ym mhob un o adeiladau'r brifysgol, cynllun beicio i'r gwaith gyda beiciau trydan cymorthdaledig i staff, a lleihau faint o wastraff y brifysgol sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi i 0%.