Diweddariad Pwysig gan y Tîm Sabothol

Dydd Mawrth 12-01-2021 - 15:04
Important update from the sabb team

️AD-DALIADAU RENT

Mae llawer o fyfyrwyr wedi bod mewn cysylltiad â ni ynghylch ad-daliadau rhent ac rydym yn teimlo na ddylid codi tâl ar fyfyrwyr am lety nad ydyn nhw neu na allant ei ddefnyddio o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau a'r arweiniad COVID sy'n dod gan Brifysgolion a'r llywodraeth. Fel Undeb rydym yn parhau i fynd ar drywydd hyn, ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol gan weithio gydag UCM ar y mater hwn, rydym hefyd yn bwriadu cyfarfod â Sian Gwenllian AS, yr aelod lleol dros y Senedd i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd ar y mater yma.

Rydym yn ymwybodol o’r ymgyrch sy'n galw am streic rhent. Rydym mewn cysylltiad â'r trefnwyr ac yn gobeithio gweithio gyda'n gilydd ar rai amcanion a rennir. Roedd yr Undeb yn llwyddiannus cyn y Nadolig wrth sicrhau gostyngiad o 10% ar gyfer pob myfyriwr mewn llety sy'n eiddo i'r Brifysgol. Efallai eich bod yn pendroni, ‘pam 10%?’, Wel adeg y negodi, roedd cyfanswm yr amser y cafodd myfyrwyr eu cyfarwyddo i adael llety prifysgol trwy arweiniad y llywodraeth yn cyfateb i rent oddeutu 1 mis ’(contract 40+ wythnos). Roedd 10% i bawb, yn lle cynnig ad-daliadau i fyfyrwyr a adawodd yn well i ni gan nad oedd yr ad-daliad hwn yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai na allent adael, hyd yn oed os oeddent am wneud hynny, megis myfyrwyr rhyngwladol a'r rheini ag aelodau bregus o'r teulu. Rydym yn deall, yn dilyn y datblygiadau diweddar, efallai na fydd 10% yn mynd yn ddigon pell, ond mae'n werth nodi mai ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnig ad-daliadau. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Undeb yn hynod falch ohono, ac rydym yn parhau gyda'r trafodaethau i geisio cael canlyniadau gwell fyth i fyfyrwyr. Rydym hefyd wedi cysylltu â phob darparwr neuaddau preifat ym Mangor, i weld a allwn fwynhau peth llwyddiant i'n myfyrwyr yn y sector llety preifat.

RHWYD DDIOGELWCH/ DIM ANFNTAIS

I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, mae hwn yn bolisi sy'n lliniaru yn erbyn effaith set o amgylchiadau annisgwyl sy'n sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr dan anfantais yn academaidd. Ym mis Mawrth, ar ôl symud i ddysgu ar-lein, roedd hyn yn rhywbeth y buom yn gweithio arno gyda'r Brifysgol i'w roi ar waith i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni cystal ag yr oeddent wedi'i gofnodi cyn COVID. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni'n pwyso amdano eto ac rydyn ni'n gobeithio gallu darparu opsiynau i'w cyflwyno i'r Brifysgol i wella'r sefyllfa. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio ar bob myfyriwr ac mae polisïau lliniaru dal yn angenrheidiol. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr fod dan anfantais oherwydd effeithiau Covid-19 a dylai pob myfyriwr, gymaint â phosibl, gael chwarae teg i ddangos eu cyflawniad academaidd.

️AILSTRYWTHURO’R BRIFYSGOL 

Rydym yn sylweddoli bod llawer o fyfyrwyr yn poeni am y newidiadau staff yn dilyn ymarfer ailstrwythuro’r brifysgol. Fel Undeb fe wnaethom fwydo yn ôl i'r brifysgol gydag ymateb a gasglwyd ar ran yr holl fyfyrwyr oedd yn amlinellu ymateb yr Undeb a myfyrwyr i'r newidiadau arfaethedig, mae hwn i’w weld ar ein gwefan https://www.undebbangor.com/report. Nid oedd hon yn dasg hawdd, gan fod yr ailstrwythuro wedi effeithio ar bob adran ar draws y brifysgol, ond rydym yn falch bod sawl newid o ganlyniad i fewnbwn myfyrwyr wedi'u gwneud i'r cynlluniau ailstrwythuro, ac rydym yn annog y brifysgol i gyfleu'r holl newidiadau perthnasol i fyfyrwyr mor fuan a phosib, rydym wedi cyfarfod â Chyfarwyddwyr Gwasanaethau a Deoniaid a Phenaethiaid Ysgolion i drafod cynlluniau ar sut y byddant yn gweithredu'r newidiadau ac yn hollbwysig sut y byddant yn cyfleu hyn i fyfyrwyr.

IECHYD MEDDWL A LLES MYFYRWYR

Mae'r pandemig coronafirws wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl. Mae pob diwrnod wedi bod yn heriol, ac yn llawn cymaint o ansicrwydd i bob un ohonom. Mae effeithiau pellhau cymdeithasol, y cyfnodau clo a phryder y cyfryngau yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl a lles myfyrwyr. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r gefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael, a'n prosiectau a'n gweithgareddau lles a cyfoed i cyfoed sydd gennym. Mae rhai o’r gweithgareddau yma’n cynnwyd sesiynau galw heibio wythnosol gyda’r cynghorwyr iechyd meddwl a’n gwirfoddolwyr a sesiynau ioga wythnosol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau cymorth myfyrwyr ac rydym wedi cynnal trafodaethau gyda'r brifysgol ynglŷn â sut maen nhw'n gwario’r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl myfyrwyr, a oedd yn cynnwys cronfeydd caledi ariannol, gwasanaethau i fyfyrwyr sy'n hunan ynysu a chefnogaeth i fyfyrwyr bregus. Rydym hefyd wedi derbyn rhywfaint o arian tuag at gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae hyn wedi cefnogi gweithgareddau fel ein Hyfforddiant Gwydnwch Emosiynol, a phecynnau Gofal Gaeaf i fyfyrwyr a arhosodd ym Mangor dros wyliau'r gaeaf. Os oes gennych syniadau ar beth arall, gallem fod yn ei wneud, cysylltwch â ni.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddod â newid cadarnhaol, a byddwn yn parhau i fod yma i'ch cefnogi.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...