- Amdanom ni!
-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Llywodraethu
Swyddogion Myfyrwyr
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
- Llais Myfyrwyr
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
-
Gweithio gyda ni!
Helo, Neve ydw i, eich Is-lywydd Chwaraeon yn Undeb Bangor.
Rwyf newydd raddio gyda BSc mewn bioleg forol ac eigioneg. Ochr yn ochr รข'm gradd, rwyf wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn archwilio Gogledd Cymru trwy ddringo, heicio a nofio. Rwyf wedi rhoi cynnig ar ystod eang o chwaraeon sydd gennym i'w cynnig yn Undeb Bangor a thrwy glybiau chwaraeon rwyf wedi cwrdd รข rhai o fy ffrindiau agosaf.
Rwy'n angerddol iawn am yr amgylchedd a chwaraeon. Rwy'n bwriadu cyfuno fy angerddau trwy annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored a thrwy ddarparu cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr ar sut i fwynhau amgylchoedd naturiol Bangor yn ddiogel.
Un o fy mhrif flaenoriaethau yw cefnogi pwyllgorau clybiau trwy gydol y flwyddyn i'w helpu i redeg eu clybiau'n effeithiol. Rwy'n bwriadu cynnal ymgyrch atal anafiadau gyda gweithdai i aelodau'r pwyllgor a sgyrsiau sy'n agored i bawb.
Byddaf hefyd yn gweithio ar ymgyrchoedd eraill gyda fy nghyd-swyddogion myfyrwyr gan gynnwys yr ymgyrch iechyd rhywiol.
Dilynwch fi | Follow me: