Helo, Huw dwi a fi fydd Llywydd UMCB eleni – dwi'n wreiddiol o Gaernarfon felly ddim wedi gorfod trafeilio yn bell i gael profiad prifysgol arbennig ac yn brawf bod dim ffasiwn beth a mynd i brifysgol ‘’rhy agos i adra’’.

Nesi raddio dros yr haf mewn hanes ac roedd astudio modiwlau Cymraeg yn amhrisiadwy i mi wrth astudio. Felly, eleni dwi eisiau blaenoriaethu bod gan BAWB ddealltwriaeth or ffaith bod ganddynt yr hawl i astudio ac i gyflwyno pob darn o waith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni fyddai’n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg ar lefel Academaidd ac ar lefel Cymdeithasol. Yn sgil heriau’r sector addysg uwch, mae’n flaenoriaeth geni i sicrhau bod hawliau’r Gymraeg wrth wraidd unrhyw newid sydd yn dod i'r sefydliad. Hefyd flwyddyn yma dwi eisiau dangos pam mai Bangor yw’r lle i fod drwy ddangos y manteision o astudio a chymdeithasu ar y Coleg ar y Bryn.

Os bydd mater yn codi gallwch ddod o hyd i mi yn Undeb y Myfyrwyr yn llawr 4 Pontio neu yn swyddfa UMCB yn ystafell gyffredin Neuadd JMJ lle fyddai yn gweithio rhan amser.

Mae rhywbeth i bawb yma boed hynny yn cystadlu ar lwyfan yr Urdd gyda Aelwyd JMJ i gystadlu mewn cystadleuthau chwaraeon gyda Chwaraeon y Cymric mae’r cyfleoedd yn eang ac felly buaswn yn eich annog i gymryd bob un!!

Croeso i Fangor felly...

Huw

Follow us | Dilyn ni: 

 @Umcb1976