Nofio Tanfor

  • Sub aqua

Ni yw Clwb Nofio Tanfor Prifysgol Bangor - y clwb plymio sgwba gorau ym Mhrifysgol Bangor (a'r unig un hefyd!) Mae nifer o safleoedd plymio anhygoel yma yng Ngogledd Cymru allan yn y môr ac yn y mewndir ac mae gwahoddiad i chi ymuno â ni ar ein gwibdeithiau i ddatblygu eich sgil fel plymiwr dŵr oer.

Mae gan ein haelodau nifer o wahanol lefelau o brofiad plymio felly peidiwch â bod yn swil.

Os nad ydych yn barod i gael trochiad  eto gallwch ddod o hyd i ni yn o'n hamryw o sesiynau cymdeithasol hwyliog a gynhelir bob wythnos.

Byddwn hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau glanhau traethau ac yn mynd ar wibdeithiau i sioeau plymio hefyd felly neidiwch ar fwrdd y llong a dod atom i blymio!