Mae Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Bangor ar gyfer myfyrwyr y Gyfraith a myfyrwyr sy'n astudio at raddau eraill. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous i chi ddysgu am yrfaoedd yn y Gyfraith ac mewn meysydd eraill. Rydym hefyd yn trefnu teithiau i ffeiriau'r Gyfraith er mwyn i'n haelodau gwrdd â recriwtwyr o gwmnïau cyfreithwyr a siambrau bargyfreithwyr. Ein digwyddiadau mwyaf cyffrous yw Dawnsfeydd y Gyfraith lle mae croeso i fyfyrwyr o bob ysgol ymuno â ni am noson ddifyr gyda siaradwyr diddorol, bwyd rhagorol a chyfle i ddod i nabod ein gilydd yn well.