Dydd Gwener 11-07-2025 - 16:09
Mae staff ym Mhrifysgol Bangor wedi pleidleisio’n llethol o blaid gweithredu diwydiannol mewn ymateb i broses ymgynghori ddiffygiol sy’n bygwth hyd at 78 i golli swyddi. Gallai’r toriadau gael effaith ddifrifol ar ansawdd addysg, cefnogaeth i fyfyrwyr, a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Rydyn ni’n hynod falch o’r rôl y mae ein swyddogion wedi’i chwarae wrth sefyll dros fyfyrwyr a staff. Mae’r cyn-Is-Lywydd Addysg, Rose Pugh, a’r Llywydd presennol, Yakubu Jidda, wedi bod yn allweddol yn godi pryderon am y broses frys a chyfathrebu gwael, yn enwedig yn ystod cyfnod yr arholiadau, pan oedd hi’n anoddach nag erioed i ymgysylltu â myfyrwyr.
Mae eu hymgyrchu cryf wedi sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar yr adeg hollbwysig hon i’n cymuned prifysgol! Darllenwch fwy am y stori yma: erthygl WalesOnline