Dydd Iau 20-02-2025 - 16:11
Annwyl Fyfyrwyr,
Fel y gwyddoch, mae'r Brifysgol a'r sector addysg uwch ehangach yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Yn anffodus, nid ydym niโn eithriad i hyn. Rydym am fod yn dryloyw gyda chi am sut mae hyn yn effeithio ar ein cyllid a pha gamau rydym yn eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
O ganlyniad i'r pwysau ariannol ysydd arnom, rydym wedi bod yn adolygu cyllidebau ac yn adnabod meysydd lle gellir arbed costau. Mae llawer oโr rhain eisoes wedi cael eu rhoi ar waith.
Fodd bynnag, yn anffodus, fel rhan oโr broses hon, rydym wedi gorfod asesu cynaliadwyedd ariannol ein model o gynnig Clybiau a Chymdeithasau am ddim. Er ein bod wedi gweithioโn galed i gadwโr gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim dros nifer o flynyddoedd, mae costau gweithredu cynyddol a thoriadau cyllido yn golygu bod yn rhaid i ni nawr weithio i gyflwyno ffi aelodaeth yn cychwyn oโr flwyddyn academaidd nesaf. Fodd bynnag, nid ywโr manylion terfynol wediโu cadarnhau eto.
Nid dyma'r penderfyniad yr oeddem yn dymuno ei wneud. Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw opsiwn arall a fydd yn sicrhau cynaliadwyedd ein gweithgareddau ni a chi, ac yn gwarchod y ddarpariaeth ar gyfer y tymor hir.
Rydym yn deall y gall unrhyw newidiadau i fodelau aelodaeth beri pryder i fyfyrwyr. Fodd bynnag, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn eich hysbysu am unrhyw ddatblygiadau ac yn rhannuโr wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch รข ni trwy e-bostio undeb@undebbangor.com.
Yn gywir,
Eich Undeb Myfyrwyr.