Dydd Gwener 11-07-2025 - 15:35
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2025 wedi cyrraedd, ac rydym yn falch o rannu bod Prifysgol Bangor wedi gwneud cynnydd sylweddol diolch i leisiau ein myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf.
Eleni, cymerodd 73% o fyfyrwyr ran yn yr NSS, arolwg ledled y DU sy’n casglu adborth gan fyfyrwyr blwyddyn olaf am eu profiad prifysgol.
Uchafbwyntiau allweddol o ganlyniadau eleni’n cynnwys:
- Cynyddodd boddhad cyffredinol myfyrwyr ym Mangor i 82%, gan roi’r Brifysgol yn 4ydd yng Nghymru o blith wyth sefydliad a gymerodd ran
- Cynyddodd boddhad â’r addysgu o 86.4% i 87%, gan godi Bangor i’r 3ydd safle yng Nghymru, o’r 6ed safle y llynedd, ac i’r 46ain safle yn y DU allan o 124 o brifysgolion
- Cafodd Undeb y Myfyrwyr, Undeb Bangor, ei gydnabod am ei effaith, gan godi 24 safle i’r 22ain yn y DU a’r 3ydd yng Nghymru am gynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr.
Dywedodd Yakubu Abdulrahman Jidda, Llywydd Undeb Bangor:
"Rwy’n falch o weld cynnydd yn y boddhad cyffredinol gan fyfyrwyr ac yn y boddhad â’r addysgu. Mae’n galonogol iawn gweld yr ymateb cadarnhaol i'r ffordd y mae'r Undeb Myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr. Rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau â’r momentwm cadarnhaol hwn i’r flwyddyn academaidd nesaf."
Ychwanegodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr:
"Mae’n galonogol gweld gwelliant arall yn ein canlyniadau NSS, gan adeiladu ar y cynnydd o 10% yn y boddhad cyffredinol a gyflawnwyd gennym yn 2024. Mae hyn yn dystiolaeth o’r addysg o safon uchel a’r profiad myfyriwr ardderchog a ddarparwn yma ym Mhrifysgol Bangor."
Hoffem ddiolch i bob myfyriwr a gymerodd yr amser i gwblhau’r NSS a rhannu eu profiad. Mae eich adborth yn helpu i lunio dyfodol addysg a bywyd myfyrwyr ym Mangor.
Os ydych yn mynd i’ch blwyddyn olaf ym mis Medi eleni, cadwch lygad am negeseuon am yr NSS yn ystod ail semester!