
Mae’r tîm Pêl-rwyd yn un hynod boblogaidd efo niferoedd o hyd at 45 yn mynychu ymarferion llynedd. Mae wedi bod yn bleser gweld y tim yn datblygu yn y blynyddoedd diwethaf, ac efo’r capten ac is-gapten newydd Elan a Swyn yn brwdfrydig i adeiladu ar eu llwyddiant, mae’n siwr fydd hi’n flwyddyn dda iawn i’r tîm eleni eto!
Rydym yn tim sydd yn ymarfer, chwarae a chymdeithasu yn gwbwl trwy’r Gymraeg ac felly rhoi siawns i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu iaith gyntaf.
Efo gemau wedi’i cynnal llynedd yn erbyn tîm Porthaethwy, mae gobaith eleni fydd siawns am fwy o gystadlu unwaith i’r cyfyngiadau codi, efo’r posibiliad o trefnu mwy o gemau yn rhan pwysig o gynnal tîm.