Cerdd

  • Music soc

Mae Cymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor (MuSoc) yn gymdeithas sy'n cael ei chynnal gan fyfyrwyr sy'n agored i gerddorion o bob gallu, ac rydym yn barod iawn i’ch cynnwys chi!

Mae gan y gymdeithas gôr a cherddorfa, ac mae hefyd yn cefnogi ensembles llai eraill. Byddwn yn canfod ffyrdd o addasu i reoliadau cymdeithasol wrth iddynt newid dros amser, ond y cynllun presennol yw y byddwn yn cynnal yr ensembles yn rhithiol yn y semester cyntaf o leiaf, felly cysylltwch trwy’r cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod sut i gymryd rhan. Bydd y côr a'r gerddorfa yn parhau i redeg felly cysylltwch â ni, ni fyddwn yn cynnal clyweliadau - y cyfan sydd ei angen yw brwdfrydedd dros greu cerddoriaeth!

Byddwn hefyd yn dod o hyd i ffyrdd o ddod â'n haelodau ynghyd â rhith-gymdeithasu a chysylltu ar ein cyfryngau cymdeithasol felly cadwch lygad am weithgareddau i gymryd rhan ynddynt.

Cysylltwch hefo ni: