Affrica a'r Caribî

  • Acs

Mae Cymdeithas Affro-Garibïaidd Bangor yn gymdeithas sy’n dathlu diwylliannau o Affrica a'r Caribî. Ein bwriad yw cofleidio a dathlu gwahanol ddiwylliannau a chynnig rhwydwaith o gefnogaeth i fyfyrwyr o Affrica a'r Caribî yn ystod eu cyfnod ym Mangor. Rydym hefyd yn bwriadu creu cymuned i fyfyrwyr lle bydd pawb yn teimlo'n gartrefol ym Mangor.

Mae Cymdeithas Affro-Garibïaidd Bangor yn fodd i fyfyrwyr gwrdd â phobl o'r un anian y gallant gymdeithasu â nhw. Mae ein digwyddiadau cymdeithasol fel nosweithiau ffilm, dadleuon, gwibdeithiau a chyfarfodydd difyr eraill yn gyfle i fyfyrwyr gwrdd a thrafod pynciau heb deimlo'n anghyffyrddus ac mewn awyrgylch rhydd o feirniadaeth. Mae hefyd yn llwyfan i fyfyrwyr ddod at ei gilydd i ddyrchafu ac addysgu ei gilydd mewn amrywiaeth eang o bynciau megis hil, diwylliant a materion cymdeithasol, a diwylliannau poblogaidd ynghyd â dysgu am ddiwylliannau, treftadaeth a thraddodiadau gwahanol yn ogystal â'u rhai eu hunain.

Mae'r Gymdeithas yn fan lle byddwn yn dathlu tebygrwydd a gwahaniaethau myfyrwyr a lle caiff myfyrwyr eu hannog i rannu eu profiadau mewn trafodaethau ar themâu fel “tyfu i fyny ar aelwyd ddu”, lle caiff myfyrwyr drafod profiadau cyffredin mewn cyd-destun difyr a chysurus.

Yn ogystal ag addysgu ein haelodau rydym hefyd eisiau i'r Gymdeithas fod yn fan hwyliog lle gall pobl ddod i ymlacio o'u gwaith academaidd. Rydym eisiau i'r gymdeithas fod yn gartref i BOB myfyriwr, yn fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr cartref, ar unrhyw lefel graddedig ac yn astudio tuag at unrhyw radd.

Amseroedd Cyfarfod

Dydd Mawrth @ Neuadd JMJ:

Côr Merched: 5:30 - 6:30

Côr Bechgyn: 6:45 - 7:30

Côr SATB: 7:45 - 8:30

Cysylltwch hefo ni:

Pwyllgor