KATHRYN HUGHES


CYFLEOEDD MYFYRWYR YN ARWAIN

kathryn.hughes@undebbangor.com

01248 38 8018

 

Rwy'n byw yn lleol ac yn hapus iawn fy mod yn gweithio mewn lle mor brydferth. Astudiais yma ym Mangor, a graddiais gyda gradd mewn Gwyddor Chwaraeon. Rwy’n hoff iawn o iechyd a ffitrwydd ac wedi gweithio yng Nghanolfan Brailsford o’r blaen, cyn ymuno â thîm Undeb Bangor ym mis Medi 2016 fel Cynorthwyydd Gweithgareddau. Yn ddiweddar, rwyf wedi ymgymryd â rôl Cydlynydd Chwaraeon newydd ac rwy’n gyffrous i weithio’n agosach gyda grwpiau. Chwaraeais i bêl-rwyd tra'n astudio ym Mangor ac rwyf wedi parhau i wneud hynny yn fy amser hamdden. Rwy’n wirioneddol angerddol am chwaraeon a hoffwn i bawb brofi’r hyn a brofais fel myfyriwr Prifysgol Bangor.