Amdan fi:

Rwy'n gyfrifol am reoli tîm staff yr Undeb o ddydd i ddydd ac am sicrhau bod swyddogion yn cael y cymorth a'r arweiniad angenrheidiol. Fel Cyfarwyddwr, rwy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol a pherfformiad Undeb y Myfyrwyr a sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu mewn modd cyfreithiol ac yn rheoli ei adnoddau i gyflawni ei amcanion elusennol yn y ffordd orau bosibl. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda swyddogion Sabothol ac arweinwyr ifanc bob blwyddyn, gan weithio i wella y profiad myfyrwyr.

Dwi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ond wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 15 mlynedd. Astudiais yma ym Mhrifysgol Bangor fel myfyriwr israddedig a gweithiais fel Llywydd etholedig UMCB am ddwy flynedd ar ôl graddio. Rhwng 2012-2022 bûm yn gweithio fel cynghorydd lleol ym Mangor ac yn gweithio fel Aelod Cabinet dros wasanaethau cymdeithasol plant, gwasanaethau ieuenctid a hamdden a fel Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd. Dwi'n hoff iawn o bopeth Cymreig, canu a bwyta llawer o siocled!!

 

m.rowlands@bangor.ac.uk

+44 1248388011