-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Llywodraethu
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau rhithwir trwy gydol mis Tachwedd a fydd yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn sgyrsiau pwysig am y newid yn yr hinsawdd.
Gyda COP26 eisoes wedi dechrau yn Glasgow, bydd COP Cymru yn cynnig cyfle i bobl ledled Cymru ymuno â'r sgwrs, mewn rhaglen sy'n cynnwys cyflwyniadau rhithwir a thrafodaethau yn cynnwys gweinidogion y llywodraeth, academyddion, sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus a grwpiau cymunedol.
Rhwng 4 a 10 Tachwedd, bydd pedwar digwyddiad Sioe Deithiol Ranbarthol COP26 yn cael eu darlledu’n rhithwir, gan alluogi'r cyhoedd i ymuno â thrafodaethau ar bynciau sy'n adlewyrchu rhai o themâu allweddol COP26.
Bydd Dr Aisha Bello-Dambatta, o Ysgol y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, yn ymddangos yn y sioe deithiol ar drosglwyddo ynni ar ddydd Iau 4 Tachwedd ynghyd â Gemma Veneruso, swyddog gwyddonol, a’r uwch ddarlithydd ymchwil Dr Michael Rushton. Yn y cyfamser, bydd y gwyddonydd cadwraeth (a chyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd), yr Athro Julia Jones, yn siarad yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddarach y mis yma.
Mae’r rhestr lawn o ddigwyddiadau sioe deithiol yn cynnwys;
O Trawsnewid Ynni (4 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng ngogledd Cymru
O Atebion ar sail Natur (6 Tachwedd) – wedi’i gynnal yng nghanolbarth Cymru
O Addasu a Gwytnwch (8 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-orllewin Cymru
O Trafnidiaeth Lân (10 Tachwedd) – wedi’i gynnal yn ne-ddwyrain Cymru
Bydd y pedair sioe deithiol yn cael eu darlledu'n fyw, a bydd recordiad ar gael yn adran ar alw llwyfan digwyddiadau COP Cymru yn fuan ar ôl bob digwyddiad.
Bydd rhaglen COP Cymru yn dod i ben gydag Wythnos Hinsawdd Cymru: sgwrs ledled Cymru ynghylch sut i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a fydd yn cael ei chynnal ar-lein, rhwng 22 a 26 Tachwedd.
Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau rhithwir dros bum diwrnod - gyda phob diwrnod yn canolbwyntio ar thema wahanol - yn archwilio cyfraniad Cymru at yr her fyd-eang o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac yn ceisio ateb cwestiynau allweddol, fel sut allwn ddefnyddio natur i reoli risgiau i'r hinsawdd a sut all bawb gyfrannu at gyflawni Cymru sero-net.
Bydd pob diwrnod o’r Wythnos Hinsawdd Cymru hefyd ar gael ar alw ar ôl pob digwyddiad. Y pum thema yw;
O Cymru a'r byd (22 Tachwedd)
O Ynni ac allyriadau (23 Tachwedd)
O Ymateb i'r argyfwng hinsawdd (24 Tachwedd)
O Natur a gwytnwch hinsawdd (25 Tachwedd)
O Pobl a gweithredu dros yr hinsawdd (26 Tachwedd)
Wrth sôn am y digwyddiadau sydd ar y gweill, dywedodd Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru:
“Mae'r hinsawdd yn newid, ac felly rhaid i Gymru newid hefyd.
“Mae COP Cymru yn gyfle i bob un ohonom helpu i lywio dyfodol Cymru. Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn wedi bod yn glodwiw, gydag allyriadau yng Nghymru yn lleihau 30 y cant dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae nifer o’r prosiectau sy’n cael eu trafod yn ystod COP Cymru wedi bod yn allweddol wrth helpu i yrru’r newid hwn.
“Yn syml, mae’n rhaid i’r degawd nesaf fod yn ddegawd o weithredu dros yr hinsawdd.”
Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer sioeau teithiol rhanbarthol rhithwir COP Cymru, neu unrhyw un o ddigwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru, ewch i lwyfan digwyddiadau COP Cymru.