Newidiadau i Swyddi Swyddogion Myfyrwyr Etholedig – Wedi’u Llunio...

Dydd Mercher 17-12-2025 - 10:31

...gan eich adborth. 

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar ddyfodol ein swyddi Swyddogion 
Myfyrwyr Etholedig. Roedd eich adborth yn hanfodol wrth lunio’r penderfyniad a wnaed gan y 
Bwrdd Ymddiriedolwyr.


Beth ddywedodd myfyrwyr?


• Teimlas cyffredinol: Roedd 75% o fyfyrwyr yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig.
• Llywydd: Croesawodd myfyrwyr ffocws cliriach ar faterion bywyd myfyrwyr, 
ymgyrchoedd a llywodraethu, gan wneud y rôl yn fwy perthnasol ac amlwg.
• Is-Lywydd Addysg: Cefnogaeth gref i gadw’r rôl hon fel prif gynrychiolydd academaidd, 
gyda galwadau am fwy o welededd ac ymgyrchoedd sy’n berthnasol i fyfyrwyr.
• Llywydd UMCB – Swyddog Iaith Gymraeg: Cefnogaeth eang i gryfhau eiriolaeth iaith 
Gymraeg a chyfranogiad diwylliannol, gyda chynigion i wneud y rôl yn fwy cynhwysol ac 
amlwg.
• Is-Lywydd Cymunedau Myfyrwyr: Roedd llawer o fyfyrwyr yn hoffi’r ffocws ar 
cynhwysiant, perthyn, ac eiriolaeth ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn 
ei weld fel cam cadarnhaol tuag at adeiladu cymunedau myfyrwyr cryfach. Codwyd rhai 
pryderon am sicrhau bod chwaraeon, cymdeithasau a gwirfoddoli yn parhau i gael eu 
cynrychioli’n dda – rhywbeth y byddwn yn mynd i’r afael ag ef drwy gryfhau strwythurau 
gweithredol a chyfarfodydd rheolaidd.


Beth fydd yn newid?


Bydd pedwar Swyddog Myfyrwyr Etholedig llawn amser ar gyfer etholiadau swyddogion 2026–
27:
• Llywydd – arwain ar fywyd myfyrwyr, ymgyrchoedd a llywodraethu
• Is-Lywydd Addysg – cynrychioli profiad academaidd
• Is-Lywydd Cymunedau Myfyrwyr – rôl newydd wedi’i chynllunio i arwain ar berthyn, 
cynhwysiant, ac adeiladu cymunedau myfyrwyr ar draws y profiad myfyrwyr, a bydd yn 
hyrwyddo buddiannau myfyrwyr sy’n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau a 
gwirfoddoli fel cymunedau cryf
• Llywydd UMCB – Swyddog Iaith Gymraeg – cynrychiolaeth a eiriolaeth dros fyfyrwyr 
Cymraeg a’r iaith Gymraeg a diwylliant
Beth nesaf?
Byddwn yn:
• Cryfhau strwythurau’r Undeb Athletau, Cymdeithasau, Gwirfoddoli ac UMCB i gadw 
lleisiau arbenigol yn gryf
• Adolygu cefnogaeth staff a chyflawniad gweithredol
• Paratoi ar gyfer etholiadau 2026 a rhannu mwy o fanylion yn fuan


Diolch eto am helpu i lunio’r newidiadau hyn. Mae eich adborth yn sicrhau bod y rolau hyn yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i chi fel myfyrwyr.

Gallwch ddarllen yr adroddiad ymgynghori llawn yma a gweld y swydd ddigrifiadau wedi’u diweddaru ar gyfer pob rôl yma

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...