Croeso i dudalen y Bonllefwyr, Dreigiau Bangor!
Ymunwch â ni i fod yn rhan o dîm anhygoel o athletwyr sy'n gwneud campau ac yn dawnsio.
Rydym yn glwb o tua 50 aelod sy'n cynnwys pedwar tîm. Mae gennym un tîm campau, grŵp campau a thîm dawns pom sy'n mynd i gystadlaethau cenedlaethol blynyddol - un o'r uchafbwyntiau i'r aelodau.
Mae gennym hefyd dîm hamdden i'r rheiny sydd eisiau profiad llai cystadleuol o fonllefain i feithrin sgiliau a pherfformio i fyfyrwyr eraill ar ddiwedd y flwyddyn.
Rhwng ein sesiynau hyfforddi rydym hefyd yn cefnogi clybiau chwaraeon eraill ac yn cynnal nosweithiau cymdeithasol wythnosol sy'n dod â ni'n agosach fel tîm ac yn hoe dda o waith academaidd.
Mae'r aelodau'n amrywio'n fawr yn eu gallu cyn ymuno, o fod yn gwbl newydd i fonllefain at brofiad o serennu felly mae croeso i bawb roi cynnig arni, dim ond potensial rydym yn chwilio amdano! Felly os hoffech gynrychioli'r brifysgol neu ddysgu sgiliau newydd gyda chriw cefnogol iawn, welwn ni chi yn y sesiynau rhoi cynnig arni!