Ni yw cymdeithas LHDT+ (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws a Mwy) Prifysgol Bangor. Rydym yn croesawu pawb beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol neu fynegiant o rywedd. Trwy gyfrwng nosweithiau ffilm wythnosol, prynhawniau coffi a the LHDTe a myrdd o ddigwyddiadau achlysurol, ein nod yw cynnig amgylchedd diogel a chroesawgar i aelodau'r gymuned LHDT+. Yn ogystal 芒'n digwyddiadau cymdeithasol, byddwn hefyd yn cynnal ymgyrchoedd ac yn cydweithredu gyda gwahanol gymdeithasau eraill ym Mhrifysgol Bangor.