Dydd Gwener 28-11-2025 - 10:29
Medi 2025
Dewisiwyd Nida Ambreen o blith 420 o enwebiadau o 120 o wahanol sefydliadau ar gyfer rownd derfynol Gwobr Arweinydd Myfyrwyr y Flwyddyn yng nghwobrau #Rydymniynrhynwgladol. Mae’r holl sefydliadau, timau, staff, a myfyrwyr a gyrhaeddodd y rhestr fer wedi gwneud ymrwymiad a chyfraniad arbennig ar gyfer gwella profiad myfyrwyr rhyngwladol a’i wneud yn un positif.
Dathla’r Gwobrau, a redir gan Gyngor Prydain ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA), lwyddiannau myfyrwyr rhyngwladol a’r bobol sydd yn eu cefnogi ar draws Prydain. Mae’r unigolion sydd wedi cyrraedd y rhestr terfynol wedi hyrwyddo sector addysg gryfach a mwy cynhwysol, gan sicrhau fod Prydain yn cynnal ei statws fel arweinydd byd-eang ar ddennu talentau rhyngwladol.
Mae’r 63 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cwmpasu 13 categori, gan gynnwys Pencampwyr Llais Myfyrwyr, Cefnogaeth Rhagorol i Fyfyrwyr, Arweinydd Myfyrwyr y Flwyddyn, a Sefydliad y Flwyddyn. Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer o blith 40 o sefydliadau a enwebwyd o bob cwr o’r DU.
Cyhoeddir yr ennillwyr yn y seremoni a gynhelir yn Llundain ar ddydd Mercher, Tachwedd 19 2025. Gweler fwy o wybodaeth a thocynnau ar gyfer y digwyddiad trwy glicio ar y ddolen hon.
Mynegodd Prif Weithredwraig UKCISA:
“Derbyniwyd nifer o enwebiadau arbennig gyda straeon ysbrydoledig gan sefydliadau, timau, staff, a myfyrwyr. Edrychwn ymlaen at ddod ynghyd ym mis Tachwedd i gydnabod dylwanwad aelodau UKCISA a myfyrwyr rhyngwladol ar feithrin profiadau positif ar gyfer myfyrwyr”
Dywedodd Nida Ambreen:
“Bu cael fy enwebu ar gyfer gwobr Arweinydd Myfyriwr y Flwyddyn o blith dros 420 o enwebiadau o 120 o wahanol sefydliadau, yn fraint ac yn anrhydedd, ac rwyf yn hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth. Hoffwn ddiolch o’r galon i Undeb Bangor am eu cefnogaeth barhaus dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal a fy nghalluogi i fynychu’r seremoni. Nid adlewrcyhiad o fy ymdrechion i yn unig mo’r enwebiad hwn ond o ymroddiad a chydweithrediad nifer o’r cyd-weithwyr y cefais y fraint o weithio â nhw. Roedd y noson yn ddathliad arbennig o lwyddiannau ar draws y sector, ac roeddwn yn hynod falch o fod yn rhan ohonno. Hoffwn hefyd longyfarch Marcel ar dderbyn gwobr Aelod o Staff y Flwyddyn, clod llwyr haeddianol, sydd yn destament i gyfraniad eithriadol Prifysgol Bangor.”