Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn codi storm wrth goginio bwyd AM DDIM ar y

Dydd Llun 30-10-2023 - 11:11

Mae Undeb Bangor, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, wedi bod yn cydweithio gyda Chyngor Dinas Bangor i ddarparu prydau am ddim i’r rheiny sydd eu hangen.  

Dywedodd Llinos Fon Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ddinas, “Rydw i’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect llwyddiannus hwn. Mae’n rhywbeth yr wyf wastad wedi bod eisiau ei gychwyn yn y gymuned, gyda mwy a mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd bob dydd. Felly, pan ddaeth Ben ataf, roeddwn i’n fwy na hapus i gymryd rhan. Hefyd, ar ran y cynghorwyr, hoffwn ddiolch i fyfyrwyr anhygoel y brifysgol sydd wedi rhoi llawer o’u hamser i helpu pobl Bangor.”

Cychwynnodd y prosiect ar y 30ain o Fedi gyda chefnogaeth gan Josie Ball yn Undeb Bangor a Chyngor Dinas Bangor. Rhoddwyd grant o £1,500 i’r prosiect gan Gyngor Dinas Bangor er mwyn prynu offer cegin newydd a llogi’r neuadd.  

Dywedodd Ben Chandler, y myfyriwr sy’n arwain y prosiect hwn, “Rwy’n hynod o falch o ba mor llwyddiannus y mae’r prosiect hwn wedi bod hyd yma. Roeddwn i eisiau helpu unrhyw un oedd angen pryd poeth, ac erbyn hyn, bob wythnos, rydym ni’n rhedeg allan o’r bwyd ydym yn ei wneud oherwydd bod cymaint o bobl yn elwa o’r prosiect. Mae’r Undeb Myfyrwyr wedi bod yn help mawr, yn ogystal â phawb sydd wedi gwirfoddoli hyd yma. Rwy’n gobeithio y gwnawn ni helpu mwy fyth o bobl yn y dyfodol.”

Mae’r prosiect dan arweiniad myfyrwyr hwn wedi bod yn ennyn llawer o sylw yn ystod yr wythnos groeso eleni ac ar gyfryngau cymdeithasol. Maent yn rhyngweithio gyda'r gynulleidfa, yn gofyn am syniadau ar gyfer ryseitiau, ac yn cynnwys cymdeithasau eraill yn y coginio, gan feithrin synnwyr o gymuned.  

Dywed Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymuned Undeb Bangor, “Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn am gael gweithio gyda gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr sy’n cydnabod yr heriau y mae llawer o bobl yn ein cymuned yn eu hwynebu, yn enwedig oherwydd yr argyfwng costau byw. Maen nhw wirioneddol eisiau cefnogi. Mae’r Prosiect Prydau Poeth yn enghraifft berffaith o’r math o ymgyrch yr ydym ni’n anelu i’w chefnogi yn Undeb Bangor, lle mae arweinwyr myfyrwyr fel Ben yn dod atom gyda syniad, ac rydym ninnau'n darparu’r gefnogaeth weithredol i ddod â’r prosiect yn fyw. Mae gallu annog cydweithio gyda phartneriaid fel Cyngor Dinas Bangor, sy’n rhannu’r un gwerthoedd a’r un nod, yn well eto fyth.”

Bydd y bwyd a weinir yn addas i lysieuwyr a phobl sy’n bwyta cig, ac mae’r prosiect ymhell o’r cysyniad o gegin gawl. Maent yn cynnig prydau maethlon, llenwol a blasus sy’n bodloni pob chwaeth a grŵp oedran. Does dim cwestiynau’n cael eu gofyn wrth i bobl ddod i gael bwyd; yr unig beth sydd ei angen yw awydd bwyd.

Mae’r cyfleuster prydau poeth ar agor bob dydd Sadwrn o 3yh tan 6yh yn Neuadd Penrhyn, sydd wedi’i leoli ar y ffordd wrth ymyl yr orsaf fysiau. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w tudalen Instagram sef @hotmealsproject.

 

 

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...