Eich Rhan Chi

Gwirfoddolwch mewn ffordd sy’n addas i chi.

Rydym ni’n cydnabod bod yr amser y gall fyfyrwyr ei roi i wirfoddoli, ynghyd â’r hyn y maen nhw’n gobeithio ei elwa ohono yn amrywio. Dyma pam fod gennym ni ddwy rôl ar gael.

Gwirfoddolwr Cyffredinol: Cynnig mwy o hyblygrwydd ac yn gofyn am lai o ymrwymiad. Cliciwch fan hyn. 

Arweinydd Prosiect: Ydych chi’n awyddus i gymryd rhan fwy gweithredol wrth lunio a rheoli prosiectau a gwirfoddolwyr? Efallai mai hwn yw’r rôl i chi. Rydym ni’n recriwtio Arweinwyr Prosiect pob mis Ebrill felly cadwch lygad ar eich e-byst a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn!