Pam Gwirfoddoli?

Ydych chi’n chwilio am fwy o brofiad yn y maes yr ydych neu hoffech chi astudio?

Gall gwirfoddoli gynnig hyn a llawer mwy ac rydym ni yma i sicrhau eich bod chi’n cael budd ohono!

Ymunwch â’n tîm anhygoel o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli i gefnogi prosiectau yn y meysydd yr ydych chi’n teimlo’n angerddol drostynt, cynyddu eich set sgiliau a’ch hyder, cyfarfod pobl newydd a rhoi rhywbeth yn ôl.

 

Dyma ychydig o’r rhesymau y mae ein gwirfoddolwyr gwych ni’n gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud:

“Mae gwirfoddoli wedi bod yn un o’r prif ffyrdd i mi fynd allan a mynd o gwmpas y brifysgol. Mae wedi fy helpu i wneud ffrindiau, gadael y fflat a bod yng nhanol natur ac mae wedi gwneud i mi deimlo’n dda am fy hunan! Rwy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol ac mae gwirfoddoli wedi fy helpu i greu rhwydwaith gefnogaeth gryf a chael ymdeimlad o bwrpas.”

"Mae gwirfoddoli’n brofiad difyr iawn: rydych chi’n cael dawnsio ar draethau rhewllyd gyda’ch ffrindiau, plannu blodau fydd naill ai yn tyfu’r gwanwyn nesaf neu beidio a dathlu cyflawniadau cyffrous gyda rhai o’r bobl fwyaf gwirion, hwyl a difyr wnewch chi fyth eu cyfarfod.”

“Mae gwirfoddoli’n rhoi cyfle i mi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy roi fy amser ac ymdrech i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau y gall fyfyrwyr a’r gymuned ehangach gael budd ohonynt. Mae gwirfoddoli’n rhoi boddhad a mwynhad i mi wrth wneud rhywbeth da y gall eraill elwa ohono. Tros flynyddoedd o wirfoddoli, rwyf wedi datblygu fy ngallu i weithio mewn tîm drwy ryngweithio ac ymgysylltu drwy arwain tîm a threfnu, i godi fy hyder a fy ngallu i gyflwyno fy syniadau. Rwyf wedi gwneud atgofion a ffrindiau gwych drwy wirfoddoli yn ogystal a’r profiadau a’r llefydd wyf wedi bod, na fyddai wedi bod yn bosib oni bai fy mod wedi gwirfoddoli.”

"Mae clywed adborth gan y bobl y mae ein prosiectau gwirfoddoli yn eu helpu wastad yn foddhaus. Mae’n braf pan fo’ch gwaith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth i rywun. Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig cydnabod y gallwn i fod yn sefyllfa’r person hwnnw hefyd. Rydych chi’n cael yr un budd o wirfoddoli ag yr ydych chi’n ei roi iddo. Gallwch deithio, gwneud ffrindiau, rhwydweithio, bod yn greadigol, cael eich ysbrydoli ac ysbrydoli eraill, dysgu, addasu ac esblygu fel unigolyn.”