Ein Cynnig

Mae rhywbeth yma i bawb! Yma yn Undeb Bangor, mae gennym ni dros 30 o brosiectau dan arweiniad myfyrwyr, sydd wedi’u rhannu i’r categorïau canlynol:

- Lles

- Henoed

- Plant

- Amgylchedd

- Ffocws cymunedol

- Ymgyrchoedd a Digwyddiadau 

- Codi arian

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli? Ewch amdani, cofrestrwch fel Gwirfoddolwr Cyffredinol ar gyfer un o’n prosiectau heddiw! Bydd ein Harweinwyr Prosiect yn derbyn eich cais ac yn cysylltu gyda chi dros e-bost gyda mwy o wybodaeth am weithgareddau ac amseroedd.

Ydych chi eisiau rhoi cynnig ar rywbeth yn gyntaf? Pob mis Chwefror, rydym ni’n cydweithio gydag Arweinwyr Prosiect a phartneriaid i gynnal Wythnos Wirfoddoli. Dewch draw i sesiwn a rhowch gynnig ar rywbeth newydd.