Aelodaeth Gyswllt

UCM - Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr 

Mae undeb y myfyrwyr yn perthyn i UCM y DU ac Elusen UCM. UCM y DU yw'r corff cydnabyddedig ar gyfer myfyrwyr ledled y DU; mae'n fudiad ymgyrchu sydd â’r amcan o geisio amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr. Mae Elusen UCM yn elusen sy'n rhoi cymorth yn uniongyrchol i undebau myfyrwyr. Mae aelodaeth o Wasanaethau UCM Cyf. hefyd yn rhan o'n perthynas ag UCM y DU, sy'n golygu y gallwn brynu nwyddau’n foesegol ac fel rhan o gonsortiwm undebau myfyrwyr (a mudiadau eraill sy'n ymuno â'r consortiwm). Gallwch ganfod mwy am UCM ar eu gwefan

BUCS - Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain 

Rydym yn aelodau o BUCS, sy'n golygu bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i chwarae yn erbyn prifysgolion eraill. Mae'n un o'r cyrff cenedlaethol sy'n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr. Gallwch ganfod mwy am BUCS ar eu gwefan